Bu’r Gweinidog Tai, Julie James yn ymweld â phrosiect Tai yn Gyntaf Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd ddoe, a dyma ei hymweliad cyntaf fel y Gweinidog Tai.
Gwelodd sut mae’r tîm yn cynorthwyo pobl i symud oddi ar y strydoedd ac i mewn i dai.
Nod Tai yn Gyntaf yw cefnogi pobl y mae angen lefelau sylweddol o gymorth arnynt i ffarwelio â digartrefedd. Mae pobl sy’n derbyn cymorth yn cael cynnig lle i fyw ynghyd â chefnogaeth hirdymor, wedi’i theilwra i’w helpu i reoli tenantiaeth yn annibynnol.
Fis diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog fod dros £548,000 ar gael i Fyddin yr Iachawdwriaeth a Chyngor Caerdydd gydweithio ar ddau brosiect yn y brifddinas. Mae Cyngor Caerdydd yn sefydlu cynllun peilot Tai yn Gyntaf newydd ochr yn ochr â phrosiect peilot presennol Byddin yr Iachawdwriaeth er mwyn diwallu anghenion lleol. Ers dechrau prosiect Byddin yr Iachawdwriaeth, mae wyth o bobl wedi cael cymorth i reoli tenantiaeth, a diolch i’r cymorth hwn, nid oes unrhyw un o’r wyth wedi’u derbyn i adran damweiniau ac achosion brys.
Meddai Julie James:
“Mae’r tîm rhagorol yma yng Nghaerdydd yn cynorthwyo pobl i fyw yn annibynnol. Fe ges i gyfle i siarad â Chris am sut mae’r dull gweithredu hwn yn ei helpu i symud ymlaen â’i fywyd.
“Mae’r prosiect Tai yn Gyntaf yn gallu helpu pobl ddigartref sydd ag anghenion cymhleth yn aml, gan gynnwys salwch meddwl, problemau o ran camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, iechyd corfforol gwael a dim rhwydwaith cymorth ehangach.
“Mae’r dull gweithredu hwn yn darparu cymorth hyblyg i bobl am amser amhenodol, gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen o bosibl ar yr unigolyn i wella a byw yn annibynnol.
“Mae’r prosiect hwn yn cynorthwyo rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru i beidio â byw ar y strydoedd. Rwy’n rhannu agwedd benderfynol pawb sy’n gysylltiedig â Byddin yr Iachawdwriaeth, awdurdodau lleol ac elusennau sy’n gweithio i fynd i’r afael â digartrefedd a gwella bywydau pobl nad oes ganddynt gartref diogel, addas.
“Rydym yn gwybod nad yw’r dull gweithredu hwn yn addas i bawb sy’n ddigartref – mae angen tai â chymorth a llety dros dro o hyd. Fodd bynnag, gall prosiectau fel hyn yng Nghaerdydd wneud cyfraniad pwysig at gynorthwyo pobl i allu cynnal tenantiaeth, yn enwedig pobl sydd wedi bod yn cysgu ar y strydoedd ers amser hir.”
Meddai Yvonne Connolly, Rheolwr Rhanbarthol Uned Gwasanaethau Digartrefedd Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru a De Orllewin Lloegr:
“Roedd yn bleser siarad â’r Gweinidog am y canlyniadau arloesol sydd wedi deillio o raglen Tai yn Gyntaf Caerdydd, sydd wedi helpu rhai o’r bobl fwyaf anodd eu cyrraedd a grwpiau sydd ar y cyrion yn ein prifddinas.
“Mae Tai yn Gyntaf yn fodel am oes sy’n helpu unigolion i beidio â chysgu ar y strydoedd trwy eu gwneud yn denant yn eu cartrefi eu hunain, a thrwy ddarparu cymorth dwys, pendant a hyblyg i sicrhau deiliadaeth o’r eiddo.”
Nod Prosiectau Tai yn Gyntaf yw sicrhau bod gan unigolion ddewis a rheolaeth – maent yn cael eu hannog i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth, fel gwasanaethau iechyd meddwl neu wasanaethau camddefnyddio sylweddau, ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny er mwyn derbyn cymorth.