Mae Tŷ Ladywell yn y Drenewydd ar fin cael ei drawsnewid yn weithle modern, hyblyg i fusnesau newydd a busnesau sy’n datblygu, diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys.
Bydd Cyngor Powys yn derbyn £1 filiwn o gronfa Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru tuag at brosiect £3.8 miliwn i ailwampio’r adeilad.
Meddai Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Bydd y prosiect yn moderneiddio’r adeilad yng nghanol y Drenewydd, gan greu 2,500 metr sgwâr o ofod swyddfa hyblyg fel y gall busnesau llai sefydlu a thyfu yng nghanol y dref.
“Rydym yn gwybod bod angen am fwy o swyddfeydd o safon i fusnesau, a nod y buddsoddiad hwn yw denu busnesau sy’n tyfu a swyddi o safon i’r Drenewydd.
“Ar ben hynny, bydd y gwaith yn gwella effeithiolrwydd ynni’r adeilad, yn cynhyrchu ynni solar ac yn cynnig pwyntiau gwefru i gerbydau trydan.
“Rydym yn ymrwymo i ddefnyddio cyllid adfywio er mwyn rhoi bywyd newydd i ardaloedd a hybu twf economaidd sydd o fudd i’n trefi a’n cymunedau ni. Edrychaf ymlaen at weld y buddsoddiad hwn yn dod a swyddi a busnesau i’r Drenewydd.”
Mae rhaglen flaenllaw Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru yn darparu £100 miliwn o arian cyfalaf dros dair blynedd ar hyd a lled y wlad er mwyn cefnogi prosiectau adfywio yng nghanol trefi ac mewn ardaloedd cyfagos.
Mae’r arian hwn wedi’i ategu gan oddeutu £60 miliwn o fuddsoddiad pellach o leiaf gan sefydliadau a busnesau eraill, gan roi hwb cyffredinol o £160 miliwn i gymunedau o Fôn i Fynwy. Mae’n rhan o strategaeth adfywio gyffredinol Llywodraeth Cymru, a fydd yn buddsoddi £800 miliwn rhwng 2014 a 2023. Mae’n cynnwys oddeutu £250 miliwn gan Lywodraeth Cymru a ategir gan fwy na £500 miliwn gan sefydliadau a busnesau eraill.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Eiddo, y Cynghorydd Phyl Davies:
“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gryfhau economi’r sir ac mae darparu swyddfeydd modern yn y Drenewydd, sef ein tref fwyaf, yn rhan allweddol o’r strategaeth honno.
“Bydd cael swyddfeydd modern hyblyg yn gymorth i fusnesau lleol ac yn helpu i greu economi ffyniannus yng nghanol y dref. Mae prosiect Tŷ Ladywell yn fuddsoddiad hirdymor i’r cyngor a bydd yn creu incwm i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu help.