Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi mwy na £1.34m i fynd i'r afael â chysgu allan yng Nghymru dros y gaeaf hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hyn hefyd yn cynnwys cyllid penodol ar gyfer awdurdodau Caerdydd, Wrecsam, Casnewydd ac Abertawe, fel y pedair ardal awdurdod lleol sy'n wynebir materion mwyaf cymhleth mewn cysylltiad â chysgu allan. Mae'r cyllid yn cynnwys:

  • £50,000 ar gyfer y Wallich yng Nghaerdydd i gynyddu'r llety dros nos mewn argyfwng yn eu lloches
  • £25,000 ar gyfer yr Huggard yng Nghaerdydd er mwyn creu amgylchedd mwy diogel a chynyddu'r tîm cymorth yn eu lloches nos
  • £33,800 ar gyfer Cyngor Casnewydd i ariannu gwaith i helpu pobl sy'n cysgu allan i symud i lety cynaliadwy
  • £54,000 ar gyfer y Prosiect Cydweithredol Gofal Cymunedol er mwyn helpu i ddatblygu a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i'r rheini sy'n cysgu allan yn Wrecsam, ynghyd â chyngor tai, cyngor lles ac ystod o wasanaethau eraill
  • £77,600 ar gyfer Cyngor Wrecsam i ddatblygu model amlasiantaeth, lle mae sefydliadau o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn darparu gwasanaethau cydgysylltiedig i'r rheini sy'n cysgu ar y stryd i annog y rheini nad ydynt yn ymgysylltu â gwasanaethau ar hyn o bryd i wneud hynny er mwyn gwella eu hiechyd a'u hansawdd bywyd a'u galluogi i symud i lety mwy hirdymor
  • £99,000 ar gyfer amrywiaeth o brosiectau yn Abertawe, gan gynnwys cyllid i'r Wallich er mwyn datblygu eu Tîm Ymyrraeth ar gyfer y rheini sy'n cysgu allan yn wasanaeth sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos.  

Dywedodd Julie James: 

"Mae'r buddsoddi hwn yn rhan o'r £30m rydym yn ei fuddsoddi dros y flwyddyn hon ac yn y flwyddyn nesaf i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu allan. Wrth i'r tywydd oeri, mae'n hollbwysig bod y cymorth cywir ar gael er mwyn sicrhau bod pobl yn ddiogel ac yn gynnes dros y gaeaf hwn. Rydym yn cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol a'r trydydd sector i sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth cywir i helpu pobl sy'n cysgu allan yng Nghymru i adael y stryd.

"Mae nifer o resymau cymhleth pam fod pobl yn cysgu allan, a gall fod angen llawer iawn o gymorth a dealltwriaeth arnynt. Rydym wedi ymrwymo i'w helpu i ddod o hyd i lety diogel, er mwyn iddynt allu cyrraedd eu llawn botensial.

"Rwy'n annog unrhyw un sy'n pryderu am rywun sy'n cysgu allan i ddefnyddio'r ap Streetlink, a fydd yn eu tynnu i sylw'r awdurdodau lleol a'r gwasanaethau allgymorth er mwyn iddynt allu cynnig cymorth iddynt."