Mae cyflwr tai yng Nghymru wedi gwella ar draws pob deiliadaeth yng Nghymru dros y degawd diwethaf, yn ôl arolwg newydd.
Bu Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 yn casglu gwybodaeth am gyflwr ac effeithlonrwydd ynni pob math o gartref a feddiannir yng Nghymru. Roedd yr arolwg wedi datgelu bod effeithlonrwydd ynni a diogelwch mewn tai wedi gwella'n raddol hefyd.
Caiff effeithlonrwydd ynni a pherfformiad amgylcheddol eu mesur gan y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP). Yn gyffredinol, roedd sgôr SAP gyfartalog ar draws pob deiliadaeth yng Nghymru wedi cynyddu 11 pwynt SAP rhwng 2008 a 2017-18 i sgôr o 61, sy'n cyfateb i Fand D y Dystysgrif Perfformiad Ynni. Y sector rhentu preifat yng Nghymru a ddangosodd y cynnydd mwyaf, gyda chynnydd o 13 pwynt SAP.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio:
“Mae'n galonogol gweld bod cyflwr tai wedi gwella ers yr arolwg diwethaf ar draws pob deiliadaeth yng Nghymru. Tai yw un o flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru; rydyn ni am i bawb fyw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac yn eu helpu i fyw bywyd iach, llwyddiannus a llewyrchus.
“Mae’r cysylltiadau rhwng tai o ansawdd gwael a iechyd gwael yn glir. Rydyn ni'n buddsoddi £1.7bn yn y maes tai, gan ei fod yn fuddsoddiad inni drechu tlodi a gwella iechyd a lles pobl.
“Mae'r arolwg hwn yn dangos yn glir fod ansawdd cartrefi yng Nghymru wedi gwella. Ar draws pob deiliadadaeth tai, gwelwyd gostyngiad yn y ganran o gartrefi â diffygion strwythurol a pheryglon iechyd a diogelwch difrifol, gan gynnwys gweld gwelliant mewn effeithlonrwydd ynni.
“Ond, rwy eisiau sicrhau ein bod yn defnyddio'r arolwg hwn i dargedu ein hadnoddau mewn modd effeithiol i wella tai yng Nghymru. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n edrych ar yr opsiynau sydd ar gael i helpu i leihau allyriadau carbon mewn cartrefi sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, ac i adeiladu tai gwell ar gyfer y dyfodol. Er bod yr arolwg hwn yn dangos gwelliannau, rwy'n ymwybodol bod angen gwneud mwy i gyrraedd ein targedau uchelgeisiol i leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi tanwydd."
Bydd y gwaith yn parhau ar y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai i fanteisio i'r eithaf ar y data presennol ac ystyried yr opsiynau ar gyfer Arolwg o Gyflwr Tai arall yn y dyfodol.