Rebecca Evans yn cynnal trafodaethau heddiw gydag aelodau allweddol o Senedd Ewrop a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth gymeradwyo unrhyw gytundeb rhwng y DU a'r UE.
Yn ystod ymweliad â Strasbwrg, bydd y Gweinidog yn cyfarfod Grŵp Llywio Brexit y Senedd. Bydd y grŵp o chwech o aelodau yn chwarae rhan hanfodol bwysig wrth benderfynu ar safbwyntiau'r Senedd ar unrhyw Gytundeb Ymadael rhwng y DU a'r UE. Mae gan Senedd Ewrop ran bendant i'w chwarae ym mhroses Brexit oherwydd bod rhaid iddi gymeradwyo'r Cytundeb Ymadael sy'n cael ei negodi gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Dywedodd Rebecca Evans:
"Mae proses Brexit wedi cyrraedd cyfnod tyngedfennol. Bydd rhaid i unrhyw gytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, os bydd un o gwbl, gael cymeradwyaeth Senedd San Steffan a Senedd Ewrop, ac mae hyn yn cael ei anghofio'n aml yn y drafodaeth danbaid ar Brexit. Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod Aelodau o Senedd Ewrop sy'n rhan o'r Grŵp Llywio Brexit, er mwyn datgan unwaith eto mai nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau Brexit sy'n diogelu swyddi a'n heconomi.
"Dim ond 135 o ddiwrnodau sydd ar ôl cyn i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n hanfodol i ni gael cytundeb sy'n ein hamddiffyn rhag syrthio’n drychinebus allan o'r Undeb Ewropeaidd, cytundeb sy’n gosod sylfaen ar gyfer parhau i fasnachu a chynnal ein perthynas economaidd yn y dyfodol."
Bydd y Gweinidog hefyd yn codi'r mater bod Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld Cymru yn parhau i fod yn aelod o raglenni penodol yr UE - fel Horizon 2020 ac Erasmus - ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.
Aeth Rebecca Evans yn ei blaen:
"Mae arweinwyr ein prifysgolion wedi dweud wrthym ni mor werthfawr yw medru cydweithio â phrifysgolion partner, pa mor bwysig yw parhau i fedru cydweithio ar ymchwil, a pham ei bod yn hanfodol iddynt fedru parhau i gymryd rhan yn y rhaglenni Erasmus+ a Horizon 2020. Rydyn ni o'r un farn, ac wedi lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyson dros barhau i gymryd rhan.
"Rydyn ni am i Gymru fod yn genedl agored sy'n edrych allan ar y byd; mae prifysgolion Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i adeiladu'r cysylltiadau hyn ac mae'n myfyrwyr yn elwa ar y cydweithrediad. Rydyn ni am weld hynny'n parhau."
Bydd ymweliad Rebecca Evans yn cynnwys cyfarfodydd gydag o leiaf dri aelod o'r Grŵp Llywio - Elmar Brok ASE, Gabriele Zimmer ASE, Philippe Lamberts ASE - a Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Senedd Ewrop, Markus Winkler, yn ogystal ag Aelodau o Senedd Ewrop sy’n cynrychioli Cymru.
Ym mis Ebrill, croesawodd Llywodraeth Cymru Elmar Brok ASE, uwch Aelod o Senedd Ewrop ac aelod o Grŵp Llywio Brexit i gael trafodaethau am Brexit.