Mae'r Gweinidog wedi penodi dau aelod newydd ar y Bwrdd Rheoleiddiol
Mae'r Bwrdd yn ystyried adroddiadau gan y Rheoleiddiwr a chyhoeddiadau a ffynonellau gwybodaeth perthnasol eraill er mwyn cynghori'r Gweinidog ynghylch perfformiad y rheoleiddiwr, y sector ac unrhyw oblygiadau eraill sy'n ymwneud â pholisi.
Mae'r Gweinidog wedi penodi dau aelod newydd ar y Bwrdd Rheoleiddiol
- Jane Mudd
- Kevin Lawrence
Mae bywgraffiadau ar gyfer y ddau wedi'u hatodi.
Gwnaed y penodiadau hyn yn unol â'r Cod Llywodraethu ynghylch Penodiadau Cyhoeddus. Caiff pob penodiad o'r fath ei wneud ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgareddau gwleiddydol unrhyw ran yn y broses o ddethol. Er hynny, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae'n ofynnol i weithgareddau gwleidyddol ymgeiswyr a benodir (os ydynt wedi'u datgan) gael eu cyhoeddi.
Gweithgareddau gwleidyddol
Jane Mudd – Mae Jane yn aelod o'r Blaid Lafur ac yn gynghorydd Llafur dros Malpas yng Nghasnewydd.
Kevin Lawrence – Ni chafodd unrhyw weithgareddau gwleidyddol eu datgan.
Bydd y penodiadau yn dechrau ar 1 Medi 2018 ac yn dod i ben yn awtomatig ar 30 Awst 2021. Telir Aelod Annibynnol ar gyfradd o £198 y dydd.
Bywgraffiadau
Jane Mudd
Mae Jane yn Gymrawd y Sefydliad Tai Siartredig ac yn gyn-Gadeirydd CIH Cymru.
Jane yw Prif Ddarlithydd Tai a Phennaeth yr Adran Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Cyn hyn, roedd Jayne yn Brif Ddarlithydd Tai ac yn Bennaeth Adran y Gwyddorau Cymunedol Cymhwysol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae gan Jane gyfoeth o brofiad o weithio dros 20 mlynedd ym maes tai, addysgu ac ymchwil.
Mae Jane yn gyn-aelod o fwrdd Cartrefi Dinas Casnewydd ac mae'n Aelod dros Adfywio a Thai gyda Chyngor Dinas Casnewydd.
Kevin Lawrence
Yn dilyn gyrfa fel darlithydd mewn Cyfrifiadureg a Thechnoleg Gwybodaeth, newidodd Kevin gyfeiriad er mwyn canolbwyntio ei sgiliau ar ei rôl fel Rheolwr Technoleg Gwybodaeth Dysgu, datblygu platfformau dysgu a chyflwyno cyrsiau datblygu staff i staff colegau. Mae ganddo ddiddordeb byw mewn TG a'r rôl sydd iddi o ran rheoli gweithgareddau beunyddiol cymdeithasau tai yn gyffredinol a hefyd o ran sut y gall helpu i roi'r fframwaith rheoleiddio ar waith. Ers dod yn denant LINC ddwy flynedd yn ôl, mae bellach yn aelod brwd o'u Panel Tenantiaid a chafodd ei ethol yn ddiweddar fel Cadeirydd.