Mae cronfa gyllid i helpu busnesau canol y dref i gydweithio er mwyn rhoi hwb i'w heconomi leol bellach ar agor ac yn barod i gael ceisiadau.
Bydd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn cyhoeddi bod gwerth £270,000 o gyllid ar gael pan fydd yn ymweld â Chastell-nedd i gwrdd â masnachwyr lleol er mwyn dysgu sut y mae eu Hardal Gwella Busnes hwy yn gwneud gwahaniaeth i'r dref.
Mae'r Ardaloedd Gwella Busnes yn ffordd arloesol o dynnu busnesau lleol ynghyd drwy gyfuno eu hadnoddau er mwyn gweithio fel tîm. Unwaith y cytunir ar AGB drwy bleidlais, bydd pob busnes yn cyfrannu'n ariannol drwy ardoll, a gaiff ei ddefnyddio i gyllido'r gweithgareddau y cytunwyd arnynt ac a nodir yn y Cynllun Busnes. Gallai'r gweithgareddau hyn gynnwys marchnata, hyrwyddo a digwyddiadau, parcio ceir, mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella mynediad i drefi neu waith i wneud yr ardal yn fwy deniadol.
Dywedodd Rebecca Evans:
"Mae'r momentwm ar gyfer AGB yn cynyddu ar draws y DU ac rydym yn ymwybodol eu bod yn cael cryn effaith mewn trefi ledled Cymru ond mae eu sefydlu yn cymryd amser ac yn gofyn am dipyn o ymdrech a chefnogaeth, felly dyna paham ein bod yn rhoi cyllid Llywodraeth Cymru iddynt er mwyn rhoi hwb i’w helpu o'r cychwyn cyntaf.
"Mae'r Ardal Gwella Busnes, ‘Neath Inspired’, wedi datblygu partneriaethau effeithiol gyda'r dref a'r cyngor sir ar gyfer sawl prosiect, gan gynnwys cefnogi digwyddiadau, darparu basgedi crog a goleuadau Nadolig. Gall aelodau gael hyfforddiant ar y cyfryngau cymdeithasol a marchnata ac mae'r wefan yn hysbysebu rhai gwyliau lleol arbennig."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Ar y cyd, fydd yr wyth Ardal Gwella Busnes sydd eisoes wedi eu sefydlu ac sydd eisoes wedi cael cymorth gennym, yn creu buddsoddiad preifat gwerth dros £5 miliwn dros y bum mlynedd nesaf i gefnogi gweithgareddau yn eu hardaloedd. Mae'r prosiectau hyn yn cefnogi datblygiad economaidd ac adfywio canol trefi, gan wneud ein strydoedd siopa yn fannau mwy deniadol a bywiog i ymweld â hwy.
"Rydym yn gwybod bod nifer o drefi ledled Cymru yn edrych ar y model cyllid cynaliadwy hwn, ac rwy'n gobeithio gweld rhagor o ardaloedd gwella busnes posibl yn dod i'r amlwg o ganlyniad i'r cyllid. Rydym hefyd yn awyddus i annog Ardaloedd Gwella Busnes mwy penodol, megis Ardaloedd Gwella Busnes Twristiaeth a Diwydiant ochr yn ochr â'r Ardaloedd Gwella Busnes canol tref traddodiadol."
Rheolwr Ardal Gwella Busnes ‘Neath Inspired’ yw Andrew Shufflebottom, ac mae e'n argymell yn gryf i drefi eraill wneud cais am gyllid. Dywedodd:
"Mae trefi yn elwa o ganlyniad i sefydlu ardaloedd gwella busnes llwyddiannus, ac yn benodol busnesau a manwerthwyr annibynnol, pan gaiff ardoll yr AGB ei ddefnyddio'n effeithiol i gynyddu nifer ymwelwyr â'r AGB."