Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio fod mwy na hanner y rheini a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn cefnogi gwahardd codi ffioedd ar denantiaid yn y sector rhentu preifat.
Y llynedd, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion i newid y ffordd y caiff ffioedd eu codi gan asiantaethau gosod tai, landlordiaid a thrydydd partïon ar denantiaid yn y sector rhentu preifat, yn dilyn pryderon a godwyd gan Carl Sargeant, cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau.
Cytunodd mwy na hanner y rheini a ymatebodd i'r ymgynghoriad, gan gynnwys nifer sylweddol o landlordiaid, y dylid gwahardd ffioedd diangen.
Canfu'r ymgynghoriad fod lefel y ffioedd y mae asiantaethau yn eu codi ar denantiaid yn amrywio'n fawr - roedd y ffioedd a gofnodwyd gan denantiaid yn amrywio rhwng £50 a £1,700 am y cytundeb yn unig.
Dyma rai o'r prif bethau a ddaeth i'r amlwg drwy'r ymgynghoriad:
- Roedd 56% o bawb a ymatebodd yn cytuno y dylid gwahardd ffioedd diangen yn llwyr
- Lle caiff ffioedd eu codi, dywedodd y tenantiaid y codir £249.47 ar gyfartaledd arnynt i ddechrau tenantiaeth, £108 i adnewyddu tenantiaeth a £142 ar ddiwedd tenantiaeth.
- Dywedodd 62% o denantiaid fod ffioedd wedi effeithio ar eu gallu i symud i eiddo rhent, a dywedodd 86% fod ffioedd wedi effeithio ar eu penderfyniad i ddefnyddio asiant.
- Nid oedd 61% o landlordiaid yn gwybod pa ffioedd yr oedd eu tenantiaid yn talu eu hasiant.
"Fe gawson ni nifer uchel dros ben o ymatebion i'r ymgynghoriad, a dw i'n credu bod hyn yn adlewyrchu pa mor gryf mae pobl yn teimlo am y mater. Mae rhai o'r ffioedd y mae tenantiaid yn eu talu ar ddechrau eu tenantiaeth yn anghredadwy, ac maen nhw'n effeithio ar eu gallu i symud i'r sector rhentu preifat neu i symud o fewn y sector.
"Dw i'n awyddus i weithio'n agos gyda thenantiaid, landlordiaid ac asiantaethau gosod tai i sicrhau bod y costau y mae pobl yn eu hwynebu yn rhesymol, gan ei gwneud yn haws iddyn nhw gael llety rhent preifat. Dw i hefyd yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda landlordiaid ac asiantaethau preifat i wella a moderneiddio'r sector i bawb.
"Mae llety rhent preifat yn rhan gynyddol o'r sector tai yng Nghymru, gan gyfrif am ryw 15% o bob aelwyd, a dw i am iddo fod yn opsiwn diogel a deniadol.
"Dw i eisoes wedi cyhoeddi fy mwriad i gyflwyno Bil sy'n gwahardd ffioedd yn y sector rhentu preifat. Mae casgliadau'r ymgynghoriad hwn yn ychwanegu at y dystiolaeth dros yr angen i weithredu i fynd i'r afael â'r ffioedd sy'n cael eu codi ar denantiaid ar hyn o bryd. Fe wna i nawr fynd ati i gwblhau'r cynigion deddfwriaethol a chyflwyno Bil i'r Cynulliad yn nes ymlaen eleni."
Ymatebodd mwy na 680 o unigolion a sefydliadau i'r ymgynghoriad, ac mae crynodeb o'r ymatebion hynny yn cael eu cyhoeddi heddiw.