Ymwelodd Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, â'r Tramshed yng Nghaerdydd i gyhoeddi buddsoddiad o £4.9 miliwn mewn prosiectau lleol ar draws Cymru'r Nadolig hwn.
Dywedodd y Gweinidog, Rebecca Evans AC:
"Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o brosiectau i helpu i adfywio trefi ar draws Cymru, gan amrywio o lanhau adeiladau segur yn y Rhyl i'w hailddatblygu i ailwampio hen adeiladau er mwyn creu cartrefi yn Abertawe.
"Mae'r Tramshed yn enghraifft wych o sut all cymorth gan Lywodraeth Cymru helpu i ysgogi adfywio. Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn helpu cynghorau lleol i adfywio ardaloedd, yn unol â'n blaenoriaethau ehangach megis helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant a datblygu eu sgiliau, gwella iechyd a llesiant a threchu tlodi.
"Bydd cymunedau ar draws Cymru yn elwa ar y cyllid hwn, ac edrychaf ymlaen at weld sut mae'r prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl."
Ymhlith y prosiectau a gefnogir y mae:
- £1m i adfer Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog sy'n adeilad rhestredig Gradd II*, ac adeiladu adeilad newydd modern gerllaw i leoli llyfrgell newydd Aberhonddu a darparu ystafelloedd at ddibenion addysg, y gymuned a chynadledda a lleoedd manwerthu ar gyfer cynnyrch lleol
- £300,000 i Gyngor Abertawe ar gyfer ailwampio tri adeilad er mwyn creu 10 o unedau tai yng nghanol dinas Abertawe, a hefyd ar gyfer creu gofod llawr masnachol mewn tri adeilad segur
- Yn Shotton, bydd buddsoddiad o £162,000 yn cael ei ddefnyddio i brynu ac ailddatblygu hen Glwb Cymdeithasol Tata Steel; Bydd partneriaeth a arweinir gan Gofal a Thrwsio Gogledd Cymru yn cael cyllid i ddarparu hyfforddiant, cymorth iechyd, chwaraeon a gwasanaethau eraill, sy'n canolbwyntio ar lesiant pobl leol
- £80,000 i helpu i addasu hen adeilad coleg yn y Barri er mwyn creu Canolfan Busnes BSC Squared, sef uned hybu i gefnogi microfusnesau a busnesau bach a chanolig newydd i ddatblygu a thyfu'n lleol.
Cafodd y Tramshed £500,000 drwy Gronfa Benthyciadau Canol Trefi gwerth £20 miliwn Llywodraeth Cymru, sy'n helpu i ailddefnyddio safleoedd ac eiddo gwag mewn canol trefi. Pan fydd y benthyciadau wedi'u had-dalu, caiff yr arian ei ddefnyddio unwaith eto i ariannu benthyciadau newydd.
Cafodd 250 o swyddi eu creu neu eu diogelu fel rhan o brosiect Tramshed, sydd wedi creu 18,500 medr sgwâr o ofod cynadledda ynghyd â lle i fusnesau ddatblygu a lle i gynnal digwyddiadau cymunedol. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â'r ardal o ganlyniad i'r prosiect.