Mae cyllideb Cefnogi Pobl ar gyfer 2017-18 wedi'i sicrhau ar yr un lefel eleni.
Mae rhaglen Cefnogi Pobl yn cynnig cymorth sy'n gysylltiedig â thai i helpu pobl sy'n agored i niwed gadw eu cartrefi a byw mor annibynnol ag sy'n bosibl. Caiff £124.4m eu dyrannu ymhlith y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn iddo gyflwyno ei anerchiad agoriadol yng Nghynhadledd Cymorth Cymru yng Nghaerdydd. Yr hyn a ddywedodd yn y gynhadledd oedd:
“Rwy'n falch iawn bod Cymru'n parhau i ddiogelu rhaglen Cefnogi Pobl a'n bod wedi clustnodi'r cyllid hwn am flwyddyn arall. Mae'r gwaith cefnogi sy'n cael ei wneud gan dimau a gaiff eu hariannu drwy raglen Cefnogi Pobl yn helpu rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru i aros yn eu cartrefi eu hunain.
“Ond, fel yr ydw i wedi'i ddweud ar sawl achlysur, dyw hynny ddim yn meddwl y dylai pethau aros yr un fath. Ar adeg pan fo cyllidebau'n crebachu, mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithio ar y cyd i wneud rhaglenni grantiau'n fwy effeithiol ac effeithlon, ac os yw'n bosibl, ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. Rhaid inni herio'r ffordd yr ydyn ni'n gwneud pethau a gofyn cwestiynau.
"Hoffwn i ddiolch i'r holl weithwyr hynny ym maes cymorth tai sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl mewn angen ac sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref”.