Mae Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi cyhoeddi cronfa gwerth £10 miliwn i helpu i adfywio safleoedd ac eiddo gwag, a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio unwaith eto.
Bydd trydydd cam Cronfa Benthyciadau Canol Trefi, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn rhoi cymorth i adfywio canol trefi mewn 12 ardal yng Nghymru.
Mae’r gronfa'n gweithio ar sail benthyciadau ailgylchadwy, h.y. ar ôl i’r arian gael ei ad-dalu, mae’n cael ei ddefnyddio eto i gyllido benthyciadau newydd.
Mae’r cyllid benthyciadau wedi cael ei ddyrannu i’r Awdurdodau Lleol canlynol: Sir Ddinbych, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Caerdydd, Sir Benfro, Wrecsam, Conwy, Powys, Gwynedd, Rhondda Cynon Taf, Ceredigion ac Ynys Môn.
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant:
"Bydd y cyllid hwn yn helpu Awdurdodau Lleol i adfywio canol eu trefi drwy ddod o hyd i ddefnydd newydd, cynaliadwy i’r eiddo a’r safleoedd gwag, fel cartrefi fforddiadwy, atyniadau i dwristiaid a lleoliadau hamdden.
"Yn ogystal â gwneud canol trefi yn lleoedd mwy deniadol i fyw ynddynt, bydd y cynllun benthyciadau hwn yn helpu i ysgogi buddsoddiad yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal â chefnogi'r economi leol."