Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £30 miliwn ychwanegol eleni tuag at ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy newydd.
Hefyd, bydd Carl Sargeant yn ymuno â Chartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i lofnodi cytundeb cyflenwi tai a fydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod cyfnod y llywodraeth hon.
Llwyddwyd i ragori ar darged Llywodraeth Cymru o sicrhau 10,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yng nghyfnod y Cynulliad diwethaf, ac roedd y cytundeb cyflenwi tai rhwng Llywodraeth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru yn rhan bwysig o’r llwyddiant hwnnw.
Dywedodd Carl Sargeant y byddai’r cytundeb newydd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Llywodraeth Cymru yn help mawr o ran cyflawni’r targed newydd.
Meddai Carl Sargeant:
“Rwyf am gryfhau’r partneriaethau er mwyn inni allu cyflawni’r targed newydd gan y bydd o fudd mawr i’n gwaith ym maes cyflenwi tai dros y bum mlynedd nesaf.
“Bwriadwn fuddsoddi mwy na £1.5 biliwn mewn cartrefi fforddiadwy yn ystod cyfnod y Llywodraeth hon. Hefyd, bydd parhau i gefnogi tai cymdeithasol yn hollbwysig. Mae angen inni wneud mwy nag erioed o’r blaen, ond bydd cynlluniau profedig a llwyddiannus, megis y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol a’r Grant Cyllid Tai, yn rhan bwysig iawn o’r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy a helpu pobl sy’n agored i niwed gael mynediad i dai, a chadw eu tai.
“Cyllideb wreiddiol y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer eleni oedd £68 miliwn. Bydd y £30 miliwn ychwanegol yr wyf yn cyhoeddi heddiw yn cynyddu cyllideb y rhaglen i £100 miliwn bron.”
Dywedodd Carl Sargeant ei bod hefyd yn bwysig edrych y tu hwnt i’r cyllid a cheisio bod yn uchelgeisiol o ran dyluniad ac ansawdd y cartrefi a gaiff eu hadeiladu.
“Rwyf am i’r sector gefnogi datblygiad math newydd o dai sy’n diwallu anghenion cyfredol ac sydd hefyd yn barod ar gyfer anghenion y dyfodol,” meddai.
“Mae hyn yn cynnwys defnyddio technegau adeiladu arloesol a gweithredu i oresgyn heriau sydd ynghlwm wrth dlodi tanwydd a’n targedau lleihau carbon.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae buddion pwysig ynghlwm wrth adeiladu cartrefi o safon: buddion o ran iechyd ac addysg, buddion economaidd a buddion i gymunedau. Mae darparu cartrefi newydd o safon i Gymru wrth galon fy uchelgais ar gyfer tymor newydd y Cynulliad.”