Dywedodd Carl Sargeant y byddai’r gyllideb gref ar gyfer tai yn helpu Llywodraeth Cymru i gwrdd â’u targed o ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod oes y llywodraeth hon.
Wrth annerch cynhadledd y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) yng Nghaerdydd dywedodd Carl Sargeant y byddai’r £1.3bn a gaiff ei ddyrannu yn ystod tymor y llywodraeth hon er mwyn cynorthwyo i wireddu’r blaenoriaethau ym maes tai yn ei helpu i gyflawni agenda fwy uchelgeisiol ar gyfer tai dros y pum mlynedd nesaf.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cymunedau groesawu hefyd yr ystadegau diweddaraf a gadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy na’i tharged o 10,000 o dai fforddiadwy ychwanegol adeg y cynulliad diwethaf.
Yn ôl yr ystadegau ar gyfer 2015-16, dywedodd awdurdodau lleol fod 2,400 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol wedi’u darparu ledled Cymru sef cynnydd o 8 y cant oddi ar y flwyddyn flaenorol.
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Cymru sy’n gwneud y cyfraniad mwyaf o hyd at nifer y tai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru gan ddarparu 94 y cant o’r holl dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod 2015-16.
Dywedodd Carl Sargeant wrth y gynhadledd fod gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn allweddol i lwyddiant Llywodraeth Cymru wrth fodloni’r targed o 10,000 o gartrefi a bod hynny’n hanfodol wrth symud ymlaen.
Dywedodd Carl Sargeant:
"Mae’r Cytundeb Cyflenwad Tai rhwng Llywodraeth Cymru a Thai Cymunedol Cymru wedi bod yn holl bwysig wrth gwrdd â’r targed o 10,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor diwethaf y llywodraeth. Mae trafodaethau ar y gweill i greu cytundeb arall ar gyfer y tymor hwn ac rydyn ni hefyd yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y broses honno er mwyn ei gryfhau ymhellach.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau ei fod hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y sector preifat wrth ddarparu tai newydd.
"Rydw i am gryfhau’r berthynas â’r sector preifat ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda chydweithwyr drwy fentrau megis y Rhaglen Ymgysylltu ag Adeiladwyr Tai fel y gallwn fynd ati ar y cyd â’n gilydd i fynd i’r afael â’r rhwystrau i’r cyflenwad tai ledled Cymru,” meddai.
Ychwanegodd Carl Sargeant fod gwaith eisoes ar y gweill i ddiddymu’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael.
"Mae’n bwysig ein bod yn cadw ein stoc bresennol o dai cymdeithasol. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddarparu tai fforddiadwy sydd hyd yn oed yn fwy diogel a fforddiadwy ac yn cyfrannu at ein nod o greu Cymru sy’n fwy ffyniannus ac yn decach. Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn caniatáu i gymdeithasau tai a chynghorau fuddsoddi’n hyderus mewn cynlluniau i adeiladu tai newydd," dywedodd.