Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, wedi llongyfarch 348 o fusnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr am weithio gyda'i gilydd i sefydlu Ardal Gwella Busnes.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £203,000 i helpu i ddatblygu 10 cynnig i greu Ardaloedd Gwella Busnes yn Aberystwyth, Pontypridd, y Fenni, Ystadau Diwydiannol Pant a Merthyr, Llanelli, Castell-nedd, Caernarfon, Bangor a Bae Colwyn, yn ogystal â Phen-y-bont ar Ogwr.
Bydd pob un o'r 348 o fusnesau'n talu treth o 1.25% ar eu hardrethi busnes, gan gynhyrchu bron i hanner miliwn o bunnoedd dros dair blynedd. Bydd yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio i wneud y canlynol:
- gwneud canol y dref yn fwy deniadol a'i gwneud yn haws mynd a dod
- gwella'r system barcio a gyrru yng nghanol y dref
- gwella'r broses farchnata i gynyddu nifer yr ymwelwyr
- lleihau nifer yr eiddo gwag
- gwella canol y dref drwy wella'r amgylchedd, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynyddu diogelwch
- chryfhau llais busnesau ar faterion sy'n effeithio ar ganol y dref.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Hoffwn longyfarch busnesau Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi gweithio gyda'i gilydd i greu Ardal Gwella Busnes lwyddiannus.
"Mae newidiadau yn arferion byw pobl, mwy o gystadleuaeth yn y farchnad a siopa ar y we yn golygu bod yn rhaid i bob un o'n trefi weithio'n wahanol i barhau i fod yn lleoedd diddorol a bywiog i ymwelwyr.
"Mae'n bleser gennym roi £21,600 i helpu i greu'r Ardal Gwella Busnes hon."