Heddiw, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant, ymweld â St Tydfil’s Court i weld sut mae Cartrefi Cwm Merthyr wedi gwella bywydau tenantiaid.
Bloc o fflatiau un ar ddeg llawr yw St Tydfil’s Court a adeiladwyd yn 1963. Llety gwarchod ar gyfer pobl hŷn sydd yno yn bennaf. Mae Cartrefi Cwm Merthyr wedi buddsoddi swm o £1.9m er mwyn gosod ceginau, ystafelloedd ymolchi a ffenestri gwydr triphlyg newydd ac er mwyn insiwleiddio’r waliau allanol, ailweirio’r trydan, gosod boeleri nwy gradd A yn lle’r gwresogyddion stôr economy 7.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd gwrdd â phreswylwyr sydd wedi elwa ar y gwaith a wnaed a hefyd â phobl ifanc sydd wedi gweithio gyda nhw ar adroddiad gwerthuso a wnaed yn St Tydfil’s Court. Cafodd y bobl ifanc eu cynnwys yn rhan o’r cynllun Trosglwyddo i Fyd Gwaith sydd bellach wedi’i gwblhau. Rhoddodd yr Ysgrifennydd i’r bobl ifanc, sydd bellach wedi symud ymlaen bob un i gymryd rhan ym mhrosiect Ymddiriedolaeth y Tywysog, dystysgrifau ar gwblhau’r cynllun.
Nodwyd yn yr adroddiad fod biliau tanwydd tenantiaid wedi gostwng o rhwng £20.00 a £30.00 yr wythnos i £8.00 yr wythnos ers cwblhau’r gwaith. Maent wrth eu bodd â’r gwelliannau i’r ceginau a’r ystafelloedd ymolchi, yn hyderus ynghylch defnyddio’r lifft, ac yn teimlo’n fwy diogel ac yn hapusach byw yn y fflatiau.
Dywedodd Mr Sargeant:
"Mae’r gwelliannau a safon y gwaith rwyf wedi’i weld yn St Tydfil’s Court yn arbennig. Nid oes dwywaith fod y gwaith wedi golygu arbedion mawr i’r preswylwyr o ran eu biliau tanwydd ac wedi trawsnewid eu fflatiau’n gartrefi cynnes, cyfforddus a dymunol.
"Y gwelliant rydw i wrth fy modd fwyaf ag ef fodd bynnag yw bod y tenantiaid yn teimlo’n fwy diogel ac yn hapusach nag o’r blaen. Mae’n enghraifft wych o’r modd y gall gwella tai pobl wella eu bywydau."
Ychwanegodd Prif Weithredwr Cartrefi Cwm Merthyr, Mike Owen:
"Rydyn ni wrth ein bodd â’r gwaith adnewyddu yn St Tydfil’s Court. Rydyn ni’n gwbl ymrwymedig yng Nghartrefi Cwm Merthyr i gynnwys ein haelodau a’r gymuned ehangach yn y gwaith o gynllunio a datblygu ein gwasanaethau.
"Mae’r gwaith wedi gwella golwg y fynedfa i ganol y dref ac rydyn ni wedi gweithio’n agos â nifer o fudiadau lleol i sicrhau bod ein gwelliannau’n cyd-fynd â’r ymgyrch i adnewyddu’r dref a’r gymuned ehangach ym Merthyr. Yn ogystal â hyn, o ganlyniad uniongyrchol i’r gwaith, cafodd swm sylweddol o arian ei wario’n cefnogi busnesau yng Nghymru ac rydyn ni hefyd wedi creu prentisiaeth ar gyfer plastrwr lleol, Jack Tucker."