Mae mynd i’r afael â’r problemau sy’n deillio o ddigartrefedd, problemau sy’n ddiangen ac y gellir eu hatal, yn flaenoriaeth allweddol i’r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Wrth annerch cynhadledd flynyddol Shelter Cymru yn ei araith gyntaf ers i’r cyfrifoldeb am Dai gael ei rôi yn ôl iddo, bydd Carl Sargeant yn dweud ei fod yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei allu i fynd i’r afael â’r broblem.
Bydd yn tynnu sylw at y pwyslais ar atal yn y Ddeddf Tai (Cymru) a gyflwynodd drwy’r Cynulliad yn 2014. Ymrwymiad Llywodraeth Cymru fydd gwneud yn siŵr fod hyn yn cael ei roi ar waith.
Bydd hefyd yn atgoffa’r cynadleddwyr am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r cyflenwad tai drwy ddyblu nifer y tai fforddiadwy newydd i 20,000.
Bydd yn dweud: “Mae sicrhau cartref diogel a chynnes i bobl yn dal i fod yn un o’r prif flaenoriaethau. Dyma’r rheswm pam rydyn ni wedi ymrwymo i gwrdd â tharged uchelgeisiol o sicrhau 20,000 pellach o dai fforddiadwy yn ystod tymor presennol y llywodraeth. Rydyn ni eisoes wedi gwneud llawer ond byddwn yn mynd ati i wneud mwy eto.”
Bydd hefyd yn dweud ei fod am wneud rhagor i leihau nifer y bobl ifanc sy’n cael eu rhoi mewn llety Gwely a Brecwast.
Bydd Carl Sargeant yn dweud: “Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau i sicrhau mwy o gydweithio rhwng timau digartrefedd a gwasanaethau plant mewn awdurdodau lleol ond rydw i am weld tipyn mwy yn cael ei wneud i osgoi defnyddio llety dros dro.
“Rwy’n deall y galw am wahardd yr arfer yn llwyr ond mae angen dewis arall arnom yn ei le er mwyn osgoi gorfod anfon pobl ifanc at llety filltiroedd i ffwrdd o’u teulu, eu ffrindiau a’u lleoliadau hyfforddiant neu addysg.
“Mae’n dda iawn gen i ddeall nad yw mwy na hanner o’n Hawdurdodau Lleol bellach yn defnyddio llety Gwely a Brecwast ar gyfer pobl ifanc. Credaf, fodd bynnag, fod mwy y gallwn ei wneud i annog Gwasanaethau Plant i weithio’n agosach â’u cydweithwyr Tai wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.”
Bydd yn dweud bod angen i’r prif sefydliadau gwrdd i drafod y broblem yma fis nesa a bydd cynlluniau newydd ar atal digartrefedd ymysg pobl ifanc a llety ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal yn cael eu cyhoeddi cyn hir.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant hefyd yn pwysleisio ei fod yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth o fewn ei allu i roi i blant yng Nghymru y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac i roi i bob person ifanc yr un cyfleoedd.
Bydd Carl Sargeant yn dweud: “Gall problemau fel trais domestig neu gamddefnyddio sylweddau gael effaith andwyol ar fywyd person ifanc. Rydw i am ddod o hyd i ffyrdd newydd a blaengar o dorri’r cylch sy’n cael ei greu gan brofiadau andwyol adeg plentyndod. Mae darparu cartref clud a diogel yn gallu chwarae rôl hollbwysig mewn atal rhain. ”