Mae'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans yn annog pobl i wirio a oes ganddynt hawl i gael cymorth i dalu eu bil treth gyngor wrth i gynllun blaengar gael ei ymestyn.
Fel rhan o'i haddewid i wneud y dreth gyngor yn decach, mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sy'n darparu cymorth i bron 300,000 o aelwydydd yng Nghymru gyda biliau'r dreth gyngor.
Efallai eich bod yn gymwys i dalu llai o dreth gyngor:
- os ydych yn credu eich bod yn byw ar incwm isel
- os ydych yn byw ar eich pen eich hun, neu gyda phobl/plant nad ydynt yn talu'r dreth gyngor
- os ydych yn fyfyriwr
- os ydych yn anabl
- os oes gennych nam meddyliol difrifol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â'r awdurdodau lleol, MoneySavingExpert.com a sefydliadau'r trydydd sector i ddatblygu cyngor syml a chyson i sicrhau bod gan holl aelwydydd Cymru'r wybodaeth y mae arnynt ei hangen am eu hawliadau i'w cefnogi i dalu eu bil treth gyngor.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
“Mae sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cymorth treth gyngor y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael yn rhan bwysig o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud y dreth gyngor yn decach.
“Mae'r awdurdodau lleol yn cymryd camau arloesol i nodi a thargedu aelwydydd cymwys a byddwn yn sicrhau bod yr arferion da hyn yn cael eu rhannu a'u mabwysiadu ledled Cymru.
“Mae llawer o ddisgowntiau, gostyngiadau ac esemptiadau ar gael a hoffwn annog pawb i wirio gwefan Llywodraeth Cymru i weld a allen nhw dalu llai o dreth gyngor.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i esemptio'r rhai o dan 25 oed sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor o 1 Ebrill 2019, ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo'r rheoliadau angenrheidiol.