Heddiw mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cyhoeddi £3.7m o gyllid yr UE i greu rhwydwaith ymchwil o'r radd flaenaf i helpu diwydiannau i fanteisio ar dechnoleg flaengar.
Bydd prosiect gwerth £5.8m y Ganolfan Arbenigedd Ffotoneg yn dod ag arbenigedd o bob cwr o Gymru ynghyd ac yn sefydlu prosiectau ymchwil cydweithredol i annog diwydiannau i fanteisio ar dechnoleg ffotoneg yn y defnydd o laseri, synwyryddion a ffeibrau optig.
Dan arweiniad Prifysgol Glyndŵr, bydd y prosiect tair blynedd yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â phrifysgolion De Cymru, Bangor ac Aberystwyth, gan weithio gyda chwmnïau ar draws y Gorllewin a'r Gogledd ac yng Nghymoedd y De mewn meysydd fel gweithgynhyrchu, gofal iechyd, telathrebu, ynni ac amaethyddiaeth.
Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd yr Athro Drakeford:
“Mae'n hanfodol i ddiwydiannau Cymru gael mynediad at yr wybodaeth a'r arbenigedd sydd ar gael yn ein prifysgolion gwych er mwyn sbarduno arloesedd a sicrhau lle i Gymru ar lwyfan y byd.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos pwysigrwydd sicrhau cyllid cyfatebol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi swyddi a thwf yng Nghymru ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd."
Dywedodd Caroline Gray, cyfarwyddwr Canolfan Dechnoleg OpTIC Prifysgol Glyndŵr Wrecsam:
"Rydyn ni'n falch iawn o gael y cyllid hwn ac o gael arwain y prosiect gyda'n partneriaid a sectorau eraill yn y Gorllewin a'r Cymoedd.
"Bydd y ganolfan yn dwyn ynghyd bob maes o arbenigedd academaidd ar draws technoleg ffotoneg, gan helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o brosesau a chynnyrch i hybu twf busnesau ac effeithlonrwydd ar gyfer economi Cymru a chenedlaethau'r dyfodol."
Ffotoneg yw'r wyddor o ddefnyddio golau i gynhyrchu ynni, canfod neu drosglwyddo gwybodaeth a ffurfiau eraill o ynni pelydrol lle mae'r uned gwantwm yw'r ffoton.