Heddiw bydd y Gweinidog Cyllid Mark Drakeford yn cyhoeddi £2.9m i ariannu gwasanaethau cyflogaeth a hyfforddiant arbenigol i bobl â nam ar eu synhwyrau.
Mae’r prosiect JobSense yn werth £3.6m ac mae’n cael £1.8m o gymorth ariannol gan yr UE, ynghyd â £1.1m gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn gweithio gyda 390 o bobl sydd â phroblemau â’u clyw neu eu golwg ac sy’n economaidd anweithgar neu wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir.
Bydd pob un sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn gallu troi at weithiwr achos arbenigol i’w helpu i oresgyn rhwystrau ac anelu at waith – byddant yn rhoi cymorth sy’n amrywio o ddatrys heriau trafnidiaeth i wella ymwybyddiaeth o’r dechnoleg sydd ar gael i roi cefnogaeth yn y gweithle i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau.
Byddant hefyd yn cael cymorth i gyfathrebu gan ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, siaradwyr gwefusau, palanteipyddion (cofnodwyr llais i destun), technoleg darllen sgrin a chyngor ynglŷn â chael grantiau o gronfa Mynediad i Waith Llywodraeth y DU.
Bydd y prosiect yn gweithio hefyd gyda chyflogwyr i herio stereoteipiau ynghylch nam ar y synhwyrau, i ddod o hyd i swyddi addas ac i roi gwybod i gyflogwyr am y cymorth a’r dechnoleg sydd ar gael i bobl â nam ar eu synhwyrau.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Bydd yr arian hwn yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o chwalu rhai o’r rhwystrau y mae pobl â nam ar eu synhwyrau yn eu hwynebu wrth fynd i mewn i’r byd gwaith. Bydd hefyd yn helpu i gau’r bwlch sy’n bodoli o ran cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru.
“Mae pawb yn haeddu’r cyfle i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael swydd. Bydd JobSense yn helpu rhai o’r bobl hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i fynd i mewn i fyd gwaith a chreu gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad iddynt.”
Dywedodd Rebecca Woolley, cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru:
“Mae bron i 90,000 o bobl o oed gwaith yng Nghymru sydd â rhyw fath o nam ar eu synhwyrau ac fe wyddom nad yw bod yn fyddar neu’n drwm eich clyw, yn ddall neu’n rhannol-ddall, yn cyfyngu ar allu unrhyw un i ragori yn y gweithle.
“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael yr arian hwn. Bydd nid yn unig yn sicrhau bod pobl â nam ar eu synhwyrau yn cael cymorth i wireddu eu potensial llawn, ond bydd cyflogwyr yng Nghymru hefyd yn cael eu grymuso i’w cefnogi i ffynnu yn y gweithle.”
Bydd JobSense yn cael ei ddarparu ar draws y Gogledd-ddwyrain, Powys a’r De-ddwyrain gan Action on Hearing Loss Cymru, ar y cyd ag Elite Supported Employment Agency a’r Canolfan sain golwg arwyddion.