Heddiw mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi £14.7m o gyllid yr UE ar gyfer tri chynllun gwaith yng Nghymoedd y De.
Prosiect newydd yw Meithrin, Cymhwyso, Ffynnu a bydd yn helpu mwy na 2,000 o bobl nad oes ganddynt gyflogaeth ddigonol i gael cyflogaeth lawn unwaith eto. Bydd hefyd yn helpu pobl â chyflyrau iechyd neu anableddau sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio i aros mewn gwaith, i ddychwelyd ar ôl absenoldeb salwch neu i gael cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa.
Bydd y cynllun, sy’n cael cymorth o £5.8m o gyllid yr UE ac yn cael ei arwain gan Gyngor Torfaen, yn cynnig gwasanaethau mentora a choetsio, ynghyd â chyngor ar yrfaoedd. Bydd hefyd yn helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau ac yn darparu gofal plant a chludiant i helpu pobl i gael cyflogaeth gynaliadwy.
Bydd y Cymoedd yn elwa hefyd ar £8.8m o gyllid ychwanegol gan yr UE i ymestyn dau brosiect sy’n bodoli’n barod – Sgiliau Gwaith ar gyfer Oedolion a Phontydd i Waith II, dan arweiniad Cyngor Torfaen mewn partneriaeth â chynghorau Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Merthyr Tudful.
Bydd Sgiliau Gwaith ar gyfer Oedolion yn cael £3.2m yn ychwanegol i helpu gweithwyr i feithrin sgiliau newydd i wella eu cyfleoedd i aros mewn gwaith a datblygu eu gyrfa. Mae’r cynllun eisoes wedi helpu mwy na 2,000 o bobl yn yr ardal i wella’u gyrfaoedd.
Bydd y cynllun Pontydd i Waith II yn cael cymorth ychwanegol o £5.6m o gyllid yr UE i ddarparu gwasanaeth hyfforddi a mentora i wella sgiliau a chyflogadwyedd pobl sy’n ddi-waith ers amser hir. Bydd y cyllid yn helpu tua 4,880 o bobl dros y pedair blynedd nesaf.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi yn yr ardaloedd lle mae’r angen mwyaf, gan chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag gweithio, lleihau tlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith a helpu pobl tuag at ddyfodol mwy llewyrchus a ffyniannus.
“Mae cronfeydd yr UE eisoes wedi helpu miloedd o bobl yn y Cymoedd i wella’u cyfle i gael swyddi. Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn helpu i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Torfaen:
“Mae Cyngor Torfaen yn falch o gael arwain y prosiect Meithrin, Cymhwyso, Ffynnu, fydd yn helpu trigolion y Cymoedd i ddod o hyd i waith sy’n diwallu eu hanghenion, yn enwedig pobl â chyflyrau iechyd ac anableddau sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio.
“Byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr lleol i wella amrywiaeth a chydraddoldeb yn y gweithle ac i wneud newidiadau er mwyn gwella iechyd a llesiant yr holl staff.”
Mae'r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar waith Tasglu'r Cymoedd Llywodraeth Cymru, a'r blaenoriaethau a amlygwyd yn ein cynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, gan gynnwys ymrwymiad i gau'r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru.