Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw wedi cyhoeddi £1.7m o gyllid yr UE i roi hwb i sector gweithgynhyrchu Cymru.
Bydd cyllid yr UE yn helpu busnesau bach a chanolig i fanteisio i'r eithaf ar dechnoleg uwch er mwyn creu prosesau a chynnyrch newydd, gwell fel rhan o brosiect Peirianneg Dylunio Uwch gwerth £2.8m.
Dan arweiniad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, bydd y prosiect yn helpu busnesau gweithgynhyrchu i symud oddi wrth ddulliau gweithgynhyrchu traddodiadol at brosesau newydd, gan helpu i gynyddu eu gallu i gystadlu a'u cynaliadwyedd mewn marchnadoedd byd-eang.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Bydd y cynllun hwn, sydd wedi'i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar sector gweithgynhyrchu Cymru i fanteisio ar dechnoleg newydd i gystadlu mewn marchnadoedd byd-eang.
"Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ysgogi swyddi, cynhyrchiant a thwf yn ein heconomi."
Dywedodd Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:
"Mae gan y Brifysgol draddodiad hir o weithio mewn partneriaeth â diwydiant a darparu rhaglenni a phrosiectau ar y cyd sy'n diwallu anghenion diwydiannau. Rydyn ni'n falch iawn o gael cyllid i weithio ar y lefel nesaf o brosiectau ar y cyd, a fydd yn ein galluogi i weithio gyda'r sector gweithgynhyrchu i ymateb i heriau technolegol y pedwerydd chwyldro diwydiannol.
"Bydd hefyd yn ein galluogi i helpu busnesau bach a chanolig i fanteisio ar gyfleoedd sylweddol i gynorthwyo diwydiannau Cymru - yn arbennig y sector gweithgynhyrchu - i ymateb i newidiadau technolegol cyflym.
"Mae'r Brifysgol yn rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau swyddi, cynhyrchiant a thwf yn economi'r wlad yn y dyfodol, ac mae'n falch tu hwnt o fedru rhannu ei gallu o ran ymchwil mewn gweithgynhyrchu uwch â chwmnïau drwy gydweithio fel hyn."