Mae'r Ysgrifennydd Cyllid yn cyhoeddi £ 5.3 miliwn ar gyfer 2 gynllun i helpu gweithlu gweithgynhyrchu uwch Cymru.
Bydd y cyllid hwn gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn cefnogi mwy nag 800 o bobl drwy'r prosiect Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 a'r cynllun Gradd Meistr mewn Arloesi Rhyngwladol, a fydd yn cael ei harwain gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Bydd y prosiect Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0, sy'n werth £3.7m ac sy'n cael £2.3m o gyllid gan yr UE, yn cynnig cymwysterau achrededig i tua 430 o weithwyr yn y diwydiant yng Nghymru, yn arbennig yn y sector gweithgynhyrchu uwch.
Bydd yn cefnogi'r rheini a fydd yn cymryd rhan i ddeall newid technolegol cyflym, ac i fod yn rhan ohono, a bydd yn helpu i ysgogi twf busnesau.
Bydd 390 o weithwyr o bob rhan o'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn cael hyfforddiant ôl-raddedig diolch i'r cynllun Gradd Meistr mewn Arloesi Rhyngwladol sy'n cael £3m o gyllid gan yr UE, ac sy’n werth £4.3m yn gyfan. Bydd yr hyfforddiant yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall pwysigrwydd arloesi mewn cyd-destun rhyngwladol deinamig.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
“Er mwyn i fusnesau allu cystadlu, mae wedi dod yn fwyfwy hanfodol iddyn nhw arloesi. Rhaid i Gymru barhau i ymateb i'r newid technolegol ac addasu ei phrosesau er mwyn cystadlu'n llwyddiannus ar raddfa fyd-eang.
“Rwy'n falch bod arian yr UE yn cael ei fuddsoddi i'n helpu i gynyddu sgiliau ein gweithlu gweithgynhyrchu uwch i fodloni'r heriau technolegol hyn ac i ymateb i gyfleoedd yn uniongyrchol.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu pobl i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus, gwerth chweil a bydd yn ysgogi busnesau i arloesi ac yn cefnogi twf yn ogystal â swyddi.”
Dywedodd Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:
"Mae gan y brifysgol hanes llwyddiannus o weithio gyda chyflogwyr yn y sector gweithgynhyrchu i gynyddu sgiliau a hyfforddi eu gweithlu ar gyfer yr amgylchedd byd-eang presennol sy'n newid yn gyflym.
“Rydym yn chwarae rôl allweddol i sicrhau bod y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru yn gynaliadwy drwy ddarparu llif o raddedigion sy'n barod ar gyfer y diwydiant. Rydym hefyd yn rhannu ein harbenigedd er mwyn herio cysyniadau a dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio sy'n fuddiol i bawb.
"Bydd y cyhoeddiad am y cyllid hwn heddiw yn ein helpu i ddatblygu ein gwaith yn y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru a sicrhau ei fod yn barod i ddefnyddio'r cyfleoedd y gall datblygiadau technolegol fel Diwydiant 4.0 eu cynnig er mwyn bod yn drech na’r gystadleuaeth.”