Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw yn cyhoeddi gwerth £10.3m o gyllid yr UE i'r sector technoleg y môr wrth iddo ymweld â Doc Penfro.
Bydd cyllid yr UE yn helpu i ddylunio a phrofi teclyn i'w osod o dan y môr i gynhyrchu symiau mawr o drydan o'r tonnau - gan arwain y ffordd i'r datblygwyr, Bombora Wave Power Europe adeiladu a masnacheiddio'r dechnoleg o'r ganolfan yn Sir Benfro.
Disgwylir i'r prosiect gwerth £15m greu hyd at 20 o swyddi medrus yn y De-orllewin, gan gefnogi'r economi leol a chreu cyfleoedd i gymunedau yn Sir Benfro.
Mae'r dyraniad diweddaraf hwn o gyllid yr UE yn dilyn buddsoddiad sylweddol gan yr UE a Llywodraeth Cymru yn niwydiant ynni'r môr yng Nghymru, gan gynnwys ardaloedd arddangos yn Sir Benfro ac Ynys Môn a chefnogaeth i ddatblygwyr technoleg yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
"Rydyn ni am i Gymru fod ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi ym maes ynni'r môr, ac rwy'n falch iawn o gyhoeddi dros £10m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i helpu i ddatblygu technoleg sy'n creu symiau mawr o drydan adnewyddadwy.
"Mae datblygwyr o bob cwr o'r byd yn dangos diddordeb mewn datblygu prosiectau yn nyfroedd Cymru, gan gydnabod bod gan Gymru rai o'r adnoddau a strwythurau cymorth gorau ym maes ynni'r môr.
"Mae'n amser cyffrous iawn i ynni'r môr yng Nghymru, ac mae'r fenter hon yn gam pwysig arall i adeiladu diwydiant ffyniannus yn Sir Benfro ac yng Nghymru gyfan."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
“Mae’r buddsoddiad hwn yn newyddion ardderchog i’r economi leol a’r diwydiant technoleg y môr yn ehangach. Bydd ynni glân yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu ein heconomi carbon isel ffyniannus, ac yn ein helpu i gyflawni ein nod o ostwng allyriadau o leiaf 80% erbyn 2050.”
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Bombora Wave Power Europe, Sam Leighton:
“Mae Bombora yn ddiolchgar iawn am y pecyn cymorth gwerth £10.3m gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer ein prosiect prawf 1.5MW cyffrous. Ers sefydlu'n pencadlys Ewropeaidd yn Sir Benfro llynedd, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chyflenwyr lleol ac wedi ehangu ein tîm talentog yn gyflym i weithio ar y prosiect newydd cyffrous hwn."