Heddiw bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol i siarad am ddau fater pwysig sy’n effeithio ar Gymru, sef Brexit a’r her ariannol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd yn sôn am effaith Brexit ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, a hynny yn ei anerchiad blynyddol yn yr Eisteddfod mewn digwyddiad a drefnir gan Plant yng Nghymru, y corff mantell cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Bydd yn traddodi’r araith yn dilyn cyfnod o drafod dwys yn y Deyrnas Unedig ynglŷn â’r math o fargen Brexit y gallai Llywodraeth y DU ei negodi â’r Undeb Ewropeaidd cyn ymadael ym mis Mawrth 2019.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Ry’n ni’n manteisio ar bob cyfle i ddadlau dros Brexit sy’n diogelu swyddi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
“Rwy’n credu bod pobl eisoes yn dechrau teimlo effaith Brexit yn eu bywydau bob dydd.
“Mae effaith Brexit yn rhyngwladol yn amlwg wrth i werth y bunt barhau i ostwng. Dyna sut mae buddsoddwyr drwy’r byd yn edrych ar ein rhagolygon economaidd sy’n dirywio. Mae’r dirywiad hwnnw yn arwain at chwyddiant a phrisiau uwch i deuluoedd yng Nghymru.
“Os yw teuluoedd yn ceisio ymdopi ar fudd-dal lles sydd wedi cael ei rewi, yna mae’r amodau wnaeth achosi Brexit yn y lle cyntaf - y teimlad o gael eich torri i ffwrdd o brif lif cymdeithas a gorfod ysgwyddo baich caledi ar eich pen eich hunan - yn mynd yn waeth.”
Yn ddiweddarach bydd yr Athro Drakeford yn siarad am yr her ariannol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yn yr wythfed flwyddyn o gyni a thoriadau cyllidebol gan Lywodraeth y DU.
Bydd yn dweud: “Bydd y pwerau trethu a benthyca ychwanegol sydd wedi'u datganoli i Gymru yn rhywfaint o help i ni allu parhau i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Bydd yn help hefyd i leihau effeithiau’r rhaglen o gyni parhaus gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nad oes fawr o arwydd ei bod yn dod i ben er gwaetha'r niwed mae wedi'i achosi i wasanaethau cyhoeddus ac i economi’r Deyrnas Unedig yn ehangach.
Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn siarad ddydd Mercher, 8 Awst 2018, o 1:30pm ymlaen yn adeilad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn Nhŷ Baltig, Bae Caerdydd, ac o 3:30pm ymlaen ar lwyfan Llywodraeth Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm.“Ry’n ni'n wynebu nifer o ddewisiadau anodd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i arwain y gwaith hwn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y trydydd sector ac eraill er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r cyllid a'r polisïau er budd pobl Cymru. Bydd yn gwneud hynny er mwyn y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw ac er mwyn y cymunedau lle maen nhw'n byw.”