Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi cynllun newydd gwerth £3m a ariennir gan yr UE i helpu cwmnïau i fanteisio ar y farchnad gwybodaeth ddaearyddol sy'n tyfu’n hynod o gyflym.
Bydd Prifysgol Aberystwyth, ar y cyd â QinetiQ, yn arwain y rhaglen Data Daearyddol ac Arsyllu ar y Ddaear ar gyfer Monitro (GEOM), sy'n defnyddio'r lloerennau mwyaf modern i arsyllu ar y ddaear.
Bydd y fenter yn helpu cwmnïau o Gymru i fanteisio ar dechnolegau lloeren a drôn i gasglu gwybodaeth hanfodol ar gyfer ei defnyddio gan wahanol sectorau, gan gynnwys amaethyddiaeth, ynni, diogelwch, yr amgylchedd, trafnidiaeth, a seilwaith. Bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu nwyddau a gwasanaethau sy'n gweddu i'r farchnad.
Mae'r rhaglen yn cael £1.9m gan yr UE drwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Mae hon yn enghraifft dda arall o sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi cyllid yr UE i helpu i sicrhau bod Cymru yn genedl sy'n gallu cystadlu ac sy'n barod i weithredu ar lwyfan byd-eang.
“Mae sicrhau bod arbenigedd ac ymchwil arloesol o'r radd flaenaf ar waith yn ein prifysgolion, ac yn cydweithio â'n busnesau, yn denu buddsoddiad ac yn sbardun i gyflogadwyedd yn y sector hwn sy'n tyfu mor gyflym.
“Mae Cymru wedi elwa'n fawr ar gyllid yr UE dros y blynyddoedd, ac mae hyn unwaith eto yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i sicrhau bod cyllid ar gael i Gymru yn lle’r cyllid hwn ar ôl i'r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd."
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda hyd at 25 o gwmnïau, sydd eisoes yn defnyddio technolegau lloeren a drôn, er mwyn eu helpu i ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r gwahanol sectorau. Mae hyn yn cynnwys defnyddio dronau i fapio'n fanwl unrhyw beryglon megis canghennau coed sydd wedi mynd yn rhy fawr, neu lethrau sydd wedi mynd yn rhy serth, ar ochrau llinellau rheilffordd. Gallai fod yn ddrud ac yn beryglus ceisio casglu'r math hwn o wybodaeth o lefel y tir.
Dywedodd Peter Bunting, o Brifysgol Aberystwyth,
“Wrth i dechnolegau symudol, apiau, a systemau clyfar allu cysylltu â data daearyddol sy'n dod o systemau yn y gofod, bydd y technolegau hyn yn chwarae rôl fwyfwy pwysig yn ein heconomi a'n bywydau o ddydd i ddydd.
“Mae'r maes hwn, sy'n tyfu'n gyflym, yn dechrau manteisio ar y posibiliadau sy'n deillio o gasglu gwybodaeth ddaearyddol drwy dechnoleg dronau. Mae rhaglen GEOM yn sicrhau bod cwmnïau o Gymru ar y blaen yn y maes cyffrous hwn sy'n tyfu'n gyflym, gan greu swyddi a datblygu nwyddau a gwasanaethau newydd.”