Heddiw bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn trafod Brexit mewn digwyddiad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yng Nghaerdydd.
Wythnos ar ôl i Cynylliad Cenedlaethol Cymru roi eu cydsyniad i Fil Llywodraeth y DU ar Ymadael â'r UE, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn nodi blaenoriaethau Cymru ar gyfer y dyfodol, a hynny mewn anerchiad i uwch swyddogion o lywodraeth leol.
Caiff Brexit effaith ar bob agwedd ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru er bod natur yr effaith hon ar lywodraeth leol yn dal yn aneglur ac fe fydd yn dibynnu i raddau helaeth ar ba fath o Brexit a fydd gennym. Bydd Brexit sy'n gwneud niwed difrifol i'r economi'n ei gwneud yn anos byth darparu cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, tra gallai newidiadau i'r polisi ar ymfudo gymhlethu problemau staffio mewn gwasanaethau rheng flaen.
Bydd hawl Cymru i gael mynediad at Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn dod i ben. O ganlyniad, gallai'r UE gyflwyno newidiadau sylweddol i fuddsoddi, datblygu a chyllid ar gyfer cynghorau. Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle i hybu trafodaeth ar y materion hyn cyn inni ymadael â'r UE y flwyddyn nesaf.
Ac yntau'n siarad cyn y digwyddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
“Wrth inni symud trwy negodiadau'r UE a pharatoi ar gyfer Cymru ar ôl iddi ymadael â'r UE, mae arnom agen arweinyddiaeth gref a chydweithrediad parod rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, byd busnes a chymdeithas sifil. Mae'r gwaith rhagorol sydd eisoes wedi'i wneud, yn bennaf oll trwy'r Grŵp Cynghori ar Ewrop, a thrwy ddigwyddiadau fel y digwyddiad heddiw, sy'n canolbwyntio ar yr hyn y mae angen ei wneud i baratoi ar gyfer Brexit, yn galondid imi.
“Rydyn ni'n gwerthfawrogi cefnogaeth gref CLlLC i'n dull gweithredu o ran cyllid rhanbarthol a'r cais i lefelau cyllid presennol gael eu cadw a'u rheoli yng Nghymru.
“Rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru wedi chwarae rhan o bwys o ran sicrhau bod Cronfeydd Strwythurol yn cael eu defnyddio'n effeithlon i wella seilwaith, meithrin sgiliau a mynd i'r afael ag allgau cymdeithasol. Mae prosiectau megis Inspire 2 Achieve, Pontydd i Waith, Safle Cyflogaeth Strategol Llangefni neu Kingsway Abertawe yn enghreifftiau gwych o hyn.
“Felly mae'n hanfodol, yn enwedig mewn oes pan fo polisïau cyni diangen Llywodraeth San Steffan yn parhau i amharu ar ein gallu i ddelio â materion o fewn ein hadnoddau ein hunain, nad yw'r ffynhonnell hon o gyllid yn diflannu pan fydd y DU'n ymadael â'r UE. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd pob cyfle posibl i sicrhau na fydd Cymru'n colli ceiniog o gyllid yn sgil Brexit, yn unol â'r addewid adeg y refferendwm."
Dywedodd y Cyng Rob Stewart (Arweinydd Dinas a Sir Abertawe), Llefarydd Ewropeaidd CLlLC a Chadeirydd y digwyddiad:
“Mae'r awdurdodau lleol yng Nghymru'n paratoi ar gyfer Brexit, gan gynnwys y posibilrwydd o ‘ddim cytundeb’ mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae'r digwyddiad CLlLC yn gyfle pwysig i ddod ynghyd, i rannu ein syniadau wrth gynllunio ar gyfer Brexit yn ogystal â rhannu’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu am sut y gallai gwahanol ganlyniadau effeithio ar wasanaethau lleol."