Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cyhoeddi dros £260m o gyllid cyfalaf newydd i gefnogi prif ymrwymiadau Llywodraeth Cymru.
Daw'r cyhoeddiad wrth i'r Ysgrifennydd Cyllid gyhoeddi adolygiad canol cyfnod o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, sy'n dangos bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £9bn mewn ysgolion, tai, cysylltiadau trafnidiaeth ac ysbytai newydd ers 2012 er gwaethaf y cyni parhaus.
Bydd y cyllid cyfalaf newydd hwn yn ariannu ystod o fuddsoddiadau seilwaith, gan gynnwys teithio llesol, band eang y genhedlaeth nesaf, rhaglen gyfalaf Cymru gyfan y GIG, canolfannau cymunedol ysgolion ledled Cymru a’r rhaglen Cymoedd Technoleg, sy'n rhan o'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De a'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Rwy'n falch o gyhoeddi'r cyllid cyfalaf ychwanegol hwn a fydd yn ein helpu i barhau i ddarparu prosiectau seilwaith uchelgeisiol yng Nghymru.
"Ein nod wrth fuddsoddi mewn seilwaith yw sicrhau bod yr arian hwn yn cyfrannu at yr economi sy'n tyfu ac yn helpu i sicrhau ffyniant i bawb."
Wrth siarad am adolygiad canol cyfnod o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, a fydd yn cael ei gyhoeddi yfory (dydd Mawrth, 1 Mai), ychwanegodd:
"Mae'r adolygiad canol cyfnod yn gyfle i edrych yn ôl ar yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni ers cyhoeddi'r Cynllun yn 2012. Mae hefyd yn gyfle amserol inni ystyried cyfeiriad ein buddsoddiadau mewn seilwaith ar gyfer y dyfodol."
Ers cyhoeddi'r Cynllun yn 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £9bn o gyllid cyfalaf mewn seilwaith yng Nghymru ac wedi datblygu mentrau cyllid arloesol newydd, gan gynnwys y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, er mwyn ategu cyllid cyfalaf confensiynol.
Bydd y £266m o gyllid cyfalaf newydd yn adeiladu ar y gwaith hwn ac yn helpu i ddiwallu anghenion y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r buddsoddiad yn cyd-fynd â'r ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb.