Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn lansio ymgynghoriad 12 wythnos heddiw ynghylch mesurau i wella'r dull o gasglu ardrethi annomestig yng Nghymru.
Mae ardrethi annomestig yn codi dros £1bn bob blwyddyn yng Nghymru, gan godi cyllid hanfodol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus fel addysg, gofal cymdeithasol, rheoli gwastraff a thai.
Er bod mwyafrif llethol o'r busnesau yn talu eu hardrethi ar amser, mae gwybodaeth sy'n cael ei chasglu gan awdurdodau lleol yn awgrymu bod hyd at £20m o bosibl yn cael ei golli bob blwyddyn wrth i rai osgoi talu.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Fel yn achos unrhyw system drethi, mae rhai yn benderfynol o osgoi neu leihau'r ardrethi annomestig y maent yn atebol i'w talu.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dorri ar y cyfle i osgoi talu trethi a helpu sefydliadau i ymchwilio'n fwy effeithiol i achosion.
“Nid yw'n iawn o gwbl fod ymdrechion y mwyafrif llethol, i lynu wrth y rheolau a thalu'r hyn sy'n ddyledus ganddynt, yn cael eu tanseilio gan leiafrif sy'n benderfynol o gamddefnyddio'r system.
“Rwy'n falch o gyhoeddi ymgynghoriad ar gyfres o syniadau a allai helpu i fynd i'r afael â'r rhai sy'n osgoi talu ardrethi annomestig. Rwy'n awyddus i glywed barn y rhai sy'n talu'r ardrethi, cynrychiolwyr o'r diwydiant ac awdurdodau lleol ynghylch ffyrdd o wneud y system ardrethi annomestig yn fwy teg ac effeithiol, ac yn llai tebygol o gael ei chamddefnyddio.
“Efallai mai lleiafswm bach o drethdalwyr annomestig yn unig sy'n osgoi talu trethi, ond pan nad ydynt yn cyfrannu'n deg mae gwasanaethau lleol, y gymuned ehangach a threthdalwyr eraill ar eu colled.”
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £200m o gymorth i fusnesau bob blwyddyn i'w helpu i dalu eu hardrethi; mae hyn yn cynnwys y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill eleni.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 4 Ebrill a 27 Mehefin 2018.