Bydd Brexit ar yr agenda pan fydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn cynnal y derbyniad Gŵyl Dewi blynyddol ac yn cyfarfod Aelodau o Senedd Ewrop ym Mrwsel heddiw ac yfory.
Bydd yr Athro Drakeford yn cychwyn ei ymweliad drwy annerch Cynghrair Flaengar y Sosialwyr a'r Democratiaid, y grŵp mwyaf ond un yn Senedd Ewrop, ynghylch blaenoriaethau Cymru ar gyfer Brexit. Yna bydd yn siarad â rhai o aelodau’r grŵp mwyaf yn Senedd Ewrop, Plaid Pobl Ewrop, cyn ymuno â thaith fasnach seiber Cymru i Wlad Belg. Ar y daith honno, bydd nifer o gwmnïau seiber Cymru yn teithio i Frwsel i drafod â'u cymheiriaid Belgaidd.
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn defnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at gryfder clwstwr seiber Cymru. Bydd hefyd yn cyflwyno Syr Julian King, Comisiynydd dros yr Undeb Diogelwch, a fydd yn amlinellu cynigion diweddar y Comisiwn ynghylch seiberddiogelwch.
Yna bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn cynnal y derbyniad Gŵyl Dewi blynyddol gyda'r hwyr ar 28 Chwefror. Dyma gyfle i hyrwyddo cynnyrch o ansawdd uchel o Gymru a thynnu sylw at ein gweithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau. Bwyd môr fydd thema'r noson, ar sail 'Blwyddyn y Môr' Croeso Cymru.
Gyda Brexit ar y gorwel, mae'r ymweliad yn dangos bod Cymru'n bwriadu parhau i weithio gyda gwledydd a rhanbarthau Ewrop, ac fe fydd yr Ysgrifennydd Cyllid hefyd yn cynnal trafodaethau â Gweinidog-Lywydd a Gweinidog Polisi Tramor Fflandrys, Geert Bourgeois, yn ogystal â chyfarfod Aelodau eraill o Senedd Ewrop.
Dywedodd Mark Drakeford:
"Mae'r daith fasnach seiber ddiogelwch yn enghraifft ardderchog o gydweithio a phartneriaethau rhyngwladol sydd mor werthfawr i Gymru, yn yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt. Rydyn ni wedi dweud yn glir - er bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni'n gadael Ewrop. Mae'n perthynas â phartneriaid rhyngwladol mor bwysig ag erioed. Byddaf yn gwneud hyn yn glir i aelodau Senedd Ewrop yn ein cyfarfodydd ym Mrwsel.
"Wrth gwrs, mae Brexit yn cyflwyno nifer o heriau i'r sector hon - ac yn wir yr economi gyfan - gan ddechrau gyda'r ansicrwydd ar hyn o bryd am y gallu i gymryd rhan mewn rhaglenni cyllido ymchwil cydweithredol. Mae rhaglenni o'r fath, yn y gorffennol, wedi helpu i gefnogi ymchwil ac arloesi yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer seiber ddiogelwch.
"Byddwn yn parhau i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau eu bod yn negodi dros Brexit sy'n bodloni anghenion Cymru."