Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cyhoeddi heddiw bod prosiect ymchwil sy’n ceisio annog twf busnesau Cymru yn y sector dyframaethu wedi cael hwb ariannol gwerth £1.4m gan yr UE.
Bydd y prosiect SmartAqua, sy'n werth £2m, yn caniatáu i wyddonwyr o Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy (CSAR) Prifysgol Abertawe weithio gyda busnesau Cymru i ddefnyddio uwch-dechnoleg a datblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol ar gyfer y farchnad dyframaethu arbenigol.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
"Bydd y cynllun hwn yn datblygu ymchwil wyddonol i helpu busnesau i ddatblygu diwydiant dyframaethu Cymru ymhellach.
"Mae'n sector arbenigol sydd â'r potensial i ddarparu cyfleoedd economaidd pwysig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig."
Dros y pedair blynedd nesaf, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddulliau glanach o gynhyrchu pysgod; defnyddio pysgod ar gyfer ymchwil biofeddygol a’r farchnad acwaria a datblygu bwydydd pysgod fferm a chynhyrchion maethfferyllol sy'n lleol ac yn ecogyfeillgar.
Nod y prosiect yw cofrestru patentau newydd, helpu busnesau i greu swyddi ac ehangu'r diwydiant yng Nghymru. Bydd busnesau yn y Gogledd, y De-orllewin a Chymoedd y De yn elwa ar hyn.
Dywedodd yr Athro Carlos Garcia de Leaniz, CSAR:
"Rydym yn falch iawn o gael arian gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y fenter gyffrous hon a fydd yn ein galluogi i weithio gyda'r diwydiant i ddatblygu cynnyrch a thechnoleg sy'n newydd ac sydd eisoes yn bodoli a'u rhoi ar y farchnad. Bydd hyn, yn ei dro, yn creu cyfleoedd mawr eu hangen am swyddi, yn enwedig i fusnesau mewn cymunedau gwledig."
CSAR yw unig ganolfan ragoriaeth dyframaethu cynaliadwy Cymru, a dyma ganolfan flaenllaw y DU sy'n ymwneud â thechnoleg glanhau dŵr a dyframaethu nad yw'n ymwneud â bwyd. Cafodd ei sefydlu yn 2003 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, cyllid yr UE a Phrifysgol Abertawe.