Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn dweud ei fod yn dal i weithio i sicrhau bod y Bil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddiwygio’n foddhaol.
Bu’r Athro Drakeford yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Llun (29 Ionawr) yn sôn wrth yr arglwyddi am ei bryderon ynglŷn â’r Bil Ymadael â’r UE. Gydag ef roedd Ysgrifennydd Brexit yr Alban, Mike Russell, yr Arglwydd Jim Wallace, cyn Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, swyddogion o Lywodraeth Cymru a’r cyn-ddiplomydd Syr Emyr Jones Parry.
Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cyllid ei bryderon ynglŷn â chymal 11 y Bil, yn ogystal â rhai agweddau eraill arno . Ar ei ffurf bresennol, bydd y Bil yn arwain at osod cyfyngiadau newydd ar bwerau mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol, unwaith y byddwn wedi ymadael â’r UE.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban welliannau i’r Bil ym mis Medi, ond cafodd y rhain eu trechu yn Nhŷ’r Cyffredin yn sgil gwrthwynebiad Llywodraeth y DU iddynt. Er iddi ddweud y byddai’n gwneud hynny, nid yw’r Llywodraeth wedi cyflwyno’i gwelliannau ei hun hyd yma i ymdrin â’r pryderon ynghylch cymal 11 ac agweddau eraill ar y bil. Felly, mae Llywodraethau Cymru a’r Alban yn pwyso ar Dŷ’r Arglwyddi i ystyried cefnogi gwelliannau tebyg, os na fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau y bydd wedi cytuno arnynt gyda’r Gweinyddiaethau Datganoledig.
Ers i’r Bil Ymadael â’r UE gael ei gyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu’r ymgais sydd ynddo i gipio pwerau mewn meysydd sydd wedi’u datganoli. Bydd yr ymdrech yn dwysáu yn awr, ar y cyd â chymheiriaid yn yr Alban ac arglwyddi ar ddwy ochr Tŷ’r Arglwyddi, i sicrhau y gwneir y newid sylweddol y mae angen ei wneud i’r Bil.
Dywedodd Mark Drakeford:
“Roedd yn galonogol gweld cynifer o arglwyddi’n bresennol ddoe a chlywed cymaint o gefnogaeth. Byddaf yn mynd ati i weithio’n galed gydag arglwyddi ar bob ochr i’r Tŷ, gan sicrhau eu bod yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae angen nawr i Lywodraeth y DU gyflwyno gwelliant boddhaol yn ddigon buan i osgoi brwydr. Ond, does dim dwywaith amdani, os na ddaw gwelliant o’r fath i law, byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i drechu’r elfen hon yn y Bil ac i sicrhau’r newidiadau a fydd yn diogelu’r setliad datganoli ar draws y DU.”
Bydd pleidlais i benderfynu a ddylid cynnwys gwelliannau i’r Bil Ymadael â’r UE yn cael ei chynnal yn nes ymlaen ym mis Chwefror.