Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi cael y contract i weithredu’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith ym mis Ebrill 2018 a bydd yn cefnogi prosiectau amgylcheddol a chymunedol mewn ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan warediadau gwastraff i safleoedd tirlenwi. Bydd £1.5 miliwn y flwyddyn yn cael eu neilltuo i’r cynllun am bedair blynedd o 2018-19. Bydd y cynllun yn ariannu prosiectau amgylcheddol a chymunedol a fydd yn cefnogi bioamrywiaeth, torri i’r eithaf ar wastraff ac ysgogi gwelliannau amgylcheddol mewn ardaloedd o fewn pum milltir i safle tirlenwi neu orsaf trosglwyddo gwastraff.
Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:
“Mae’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cydnabod y gall gwaredu gwastraff i safleoedd tirlenwi gael effaith negyddol ar gymunedau. Byddwn ni’n ariannu prosiectau a fydd yn ceisio gwrthbwyso’r effeithiau hyn.
“Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar wyneb y Bil. Rwy’n falch o gyhoeddi bod y contract ar gyfer gweithredu’r Cynllun wedi cael ei ddyfarnu i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
“Bydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn dosbarthu’r cyllid yn uniongyrchol i brosiectau sy’n helpu i wella’r amgylchedd i bob un sy’n byw ger safle tirlenwi.”