Mae Llywodraeth Cymru yn annog Llywodraeth y DU i ymrwymo o'r diwedd i brosiectau seilwaith allweddol yng Nghymru a rhoi eglurder mawr ei angen ynghylch buddsoddiadau'r dyfodol.
Mewn llythyr at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, amlinellodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford flaenoriaethau Cymru cyn i Gyllideb yr hydref gael ei chyhoeddi ar 22 Tachwedd.
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid yn annog Llywodraeth y DU i wneud cyfres o ymrwymiadau i Gymru, gan gynnwys:
- gweithredu ar argymhellion adolygiad Hendry a rhoi sêl bendith i forlyn llanw Abertawe
- mynd i'r afael â'r tanfuddsoddi sylweddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru
- gwyrdroi'r penderfyniad i beidio â mynd ati i drydaneiddio'r brif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe
- cyflawni prosiectau cysylltedd pwysig yn y Gogledd
- darparu setliad ariannol teg a chyfiawn ochr yn ochr â datganoli rhyddfraint Cymru a'r Gororau
- cydnabod adroddiadau gan arbenigwyr a gwyrdroi'r penderfyniad i beidio â datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Mae'n amser i Lywodraeth y Deyrnas Unedig newid cyfeiriad a gwrando ar farn arbenigwyr y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol a chynyddu buddsoddiad mewn seilwaith. Byddai hyn yn dod â hwb hollbwysig i economi'r Deyrnas Unedig.
"Yng Nghymru, mae nifer o brosiectau penodol sy'n barod am fuddsoddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn gofyn iddo ymrwymo o'r diwedd i'r prosiectau seilwaith allweddol hyn a darparu eglurder mawr ei angen ar fuddsoddiadau'r dyfodol.
"Mae misoedd wedi mynd heibio ers i adolygiad Hendry roi sêl bendith i forlyn llanw Abertawe – rydyn ni nawr angen gweld ymrwymiad clir gan Lywodraeth y DU er mwyn parhau â'r prosiect hwn.
"Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â mynd ati i drydaneiddio'r brif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe wedi'i chollfarnu gan lawer. Dylai nawr ddefnyddio Cyllideb yr hydref fel cyfle i wyrdroi'r penderfyniad hwn ac ymrwymo i drydaneiddio'r rheilffordd yn llawn gan mai dyma oedd yr addewid i fusnesau a theithwyr y rhanbarth.
"Mae'n rhaid i Gymru gael ei chyfran deg o fuddsoddiadau mewn seilwaith newydd, gan gynnwys prosiectau cysylltedd pwysig yn y Gogledd.
"Rwy'n annog Llywodraeth y DU i roi blaenoriaeth i neilltuo cyllid yn y Gyllideb i fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi sylweddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru. Yn yr un modd, gyda rhyddfraint Cymru a'r Gororau yn cael ei datganoli yn 2018, mae ond yn deg ein bod yn cael setliad ariannol teg.
"Rwyf hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i beidio â datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru. Nid yn unig ei bod yn anwybyddu argymhellion Comisiynau Holtham a Silk, ond hefyd yr adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Nid oes unrhyw reswm o gwbl pam y dylai'r dreth hon gael ei datganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon ond nid i Gymru."
Anogodd yr Ysgrifennydd Cyllid hefyd Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n cael yr un lefel o gyllid o raglenni presennol yr UE ar ôl Brexit – heb unrhyw arian yn cael ei adfachu i Whitehall.
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cyllid:
"Mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn hanfodol ar gyfer amaethyddiaeth, busnesau, addysg uwch ac adfywio cymunedau ledled Cymru.
"Rhaid inni gael yr un lefel o gyllid ag yr ydym yn manteisio arni ar hyn o bryd ac ni ddylai'r cyllid hwn fod yn destun unrhyw gyfyngiadau newydd gan Lywodraeth y DU nac unrhyw frigdorri. Byddai unrhyw ymgais i adfachu'r arian hwn i Whitehall a'i gynnal fel rhaglen Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amharchu datganoli."