Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cytuno ar gytundeb dwy flynedd, gwerth £210m, ar gyfer y Gyllideb.
Mae'r fargen yn cynnwys sicrhau na fydd unrhyw doriadau i'r grant Cefnogi Pobl; £15m i wella cysylltiadau hanfodol rhwng y De a'r Gogledd ar yr A487 a'r A470 a hwb o £40m i gyllid ym maes iechyd meddwl dros gyfnod o ddwy flynedd.
Mae £20m y flwyddyn yn ychwanegol ar gael ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach, a £6m ar gyfer cynllun grant i ffermwyr ifanc dros ddwy flynedd.
Mae rhagor o gyllid ar gael ar gyfer y Gymraeg; cyllid i Gymru allu delio ag effeithiau Brexit, gan gynnwys cymorth i fusnesau, a chyllid ar gyfer cerddoriaeth mewn ysgolion. Mae'r cytundeb hwn yn adeiladu ar yr un a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y llynedd.
Mae hefyd yn cynnwys:
- cronfa ddatblygu gwerth £7m ar gyfer hyfforddiant feddygol i israddedigion yn y Gogledd
- £2m i gael gwared ar y tollau ar bont Cleddau yn Sir Benfro yn 2019-20
- £3m i gefnogi'r gwaith o ddylunio a datblygu trydedd bont dros y Fenai
- £2m yn rhagor ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a buddsoddi i ranbarth economaidd newydd 'Arfor' yn y Gorllewin.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford:
"Rydym yn falch ein bod wedi gallu cytuno ar y fargen ddwy flynedd hon gyda Phlaid Cymru, sy'n rhoi sicrwydd i’n Cyllideb i gyd.
"Mae'r cytundeb hwn yn adeiladu ar y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y llynedd, ac mae'n cynnwys cyfres o ddyraniadau rheolaidd ar gyfer y Gymraeg, y celfyddydau, gofal diwedd oes, iechyd meddwl, addysg uwch a Chroeso Cymru.
"Rydym hefyd wedi gallu cytuno ar gyllid cyfalaf i ddatblygu canolfan gofal iechyd integredig yn Aberteifi ac i adeiladu ar ganlyniadau'r astudiaethau dichonoldeb i gael oriel gelf genedlaethol ac amgueddfa bêl-droed yn y Gogledd, y cytunwyd arnynt fel rhan o'r cytundeb y llynedd."
Dywedodd Adam Price, llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, busnes a'r economi:
"Bydd y Cytundeb hwn ar y Gyllideb yn darparu ar gyfer pobl a chymunedau ym mhob rhan o Gymru.
"Mae'n gwarchod y rheini sy'n agored i niwed, yn buddsoddi yn ein pobl ifanc, ac yn arloesi er mwyn dyfodol pob un ohonom. Dyma gytundeb i Gymru gyfan, o'r Cleddau i'r Fenai, o Wrecsam i'r Rhondda, o ddiwylliant i amaethyddiaeth, o ynni a thrafnidiaeth i addysg ac iechyd - syniadau newydd ar gyfer Cymru newydd."