Nid oes angen caniatâd cynllunio os yw'r defnydd presennol a'r defnydd arfaethedig o fewn yr un 'dosbarth' o fewn Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987, neu os yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (GPDO) yn pennu bod newid dosbarth i ddosbarth arall yn cael ei ganiatáu (gweler y tabl isod).
Er enghraifft, gallai siop trin gwallt gael ei newid i siop esgidiau heb ganiatâd gan fod defnydd o'r fath o fewn yr un 'dosbarth', a gallai bwyty newid i siop neu asiantaeth dai gan fod y GPDO yn caniatáu newid o'r fath heb yr angen am ganiatâd cynllunio.
Mae'n debygol y bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu allanol sydd ynghlwm wrth newid defnydd
O |
I |
---|---|
A2 (gwasanaethau ariannol a phroffesiynol) lle y mae gan safle ffenestr arddangos ar lefel y llawr. |
A1 (siop) |
A3 (bwyd a diod) |
A1 neu A2 |
B1 (busnes) (cyfyngir ar y caniatâd i newid defnydd sy'n gysylltiedig â hyd at 500 metr sgwâr o ofod llawr) |
B8 (storio a dosbarthu) |
B2 (diwydiannol cyffredinol) |
B1 (busnes) |
B2 (diwydiannol cyffredinol) (cyfyngir ar y caniatâd i newid defnydd sy'n gysylltiedig â hyd at 500 metr sgwâr o ofod llawr) |
B8 (storio a dosbarthu) |
B8 (storio a dosbarthu) (cyfyngir ar y caniatâd i newid defnydd sy'n gysylltiedig â hyd at 500 metr sgwâr o ofod) |
B1 (busnes) |
C4 (tai amlfeddiannaeth) |
C3 (tŷ annedd) |
Sui Generis - Ystafelloedd arddangos ceir yn unig |
A1 Siop |
Yn ogystal, nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o dan yr amgylchiadau canlynol:
- o A1 neu A2 i A1 ynghyd â fflat unigol uwchben
- o A2 i A2 ynghyd â fflat unigol uwchben.
Mae modd gwyrdroi'r newidiadau hyn heb gais ar yr amod yr arferai'r rhan sydd bellach yn fflat gael ei ddefnyddio at ddefnydd A1 neu A2 cyn hynny.