Mae Cymru wedi cyrraedd y nod wrth wneud defnydd llawn o’r £1.8bn o arian a gafodd gan yr UE o dan raglenni 2007-13, yn ôl sylwadau’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw.
Mae Cymru hefyd wedi buddsoddi £1.33bn, sef 65%, o’r £2bn sydd wedi cael ei ddyrannu o gronfeydd strwythurol yr UE o dan raglenni 2014-2020.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei chais olaf i’r Comisiwn Ewropeaidd i hawlio £95m o dan raglenni 2007-13. Daw hyn â’r cyfanswm sydd wedi’i hawlio i’r uchafswm o £1.8bn a oedd ar gael i’w ddyrannu yn ystod y cylch cyllido hwnnw. Mae’r cyllid hwn wedi arwain at fuddsoddi cyfanswm o £3.4 biliwn.
Golyga hyn mai Cymru yw un o’r rhanbarthau sy’n perfformio orau o fewn yr UE.
O ganlyniad i’r prosiectau yng Nghymru a gafodd gefnogaeth gan raglenni 2007-13 yr UE cafodd 72,700 o bobl gymorth i gael gwaith, 234,400 o bobl gyfle i ennill cymwysterau, ac fe grëwyd 11,925 o fusnesau a 36,970 o swyddi.
Fe wnaeth y rhaglenni serennu, gyda’r prosiectau i helpu pobl i gael gwaith, ennill cymwysterau a chreu busnesau newydd yn llwyddo i gyrraedd dros ddwywaith y targed.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Rhwng 2007 a 2013, fe wnaeth arian yr UE gefnogi amrywiaeth o brosiectau o fudd i bobl, busnesau a chymunedau o bob cwr o Gymru.
“Cafodd y rhaglenni eu rhoi ar waith mewn cyfnod arbennig o heriol, lle cafodd Cymru ei tharo gan yr argyfwng ariannol ac yn economaidd byd-eang.
“Mae gallu gwireddu’r canlyniadau hyn yn llwyddiant a hanner a hoffwn ddiolch i’n partneriaid am eu cyfraniad i sicrhau ei fod yn bosib.
“Mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd hefyd wedi helpu i leihau’r bwlch rhwng Cymru a’r DU mewn meysydd fel cyflogaeth, gweithgarwch economaidd, sgiliau a buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi.”
Dyma rai o’r mentrau newydd sbon a gafodd gefnogaeth yng nghylch ariannu 2007-13 yr UE:
- £40m i Gampws Arloesi Prifysgol Abertawe lle mae 5,000 o fyfyrwyr yn astudio ar hyn o bryd. Disgwylir y bydd yn denu miloedd yn fwy dros y blynyddoedd nesaf;
- £85m ar gyfer dros 79,600 o brentisiaethau a thros 12,400 o gyfnodau hyfforddi ledled Cymru gyda chyflogwyr sy’n cynnwys Airbus, Admiral a GE Aviation;
- £3m i adnewyddu Lido Ponty, sydd wedi denu bron i 100,000 o ymwelwyr hyd yn hyn;
- £13.5m i brosiect ymchwil ac arloesi cydweithredol ‘SEACAMS’ i gefnogi sector gwyddor y môr yng Nghymru;
- £4.3m i Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Digwyddiadau Plas Heli ym Mhwllheli;
- Dros £130m tuag at y gwaith o ddatblygu prif ffyrdd, gan gynnwys yr A465 Blaenau’r Cymoedd a Ffordd yr Harbwr ym Mhort Talbot, ynghyd â gwelliannau i orsafoedd trenau ledled Cymru.
Dyma’r buddsoddiadau sydd wedi’i gwneud hyd yn hyn o dan gylch ariannu 2014-2020:
- £64m ar gyfer gwneud gwaith adnewyddu sylweddol i’r A40 yn Sir Benfro a’r A55 yn y Gogledd;
- £4.6m i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd, CUBRIC;
- £76m ar gyfer Cronfa Fusnes Cymru sy’n helpu Busnesau Bach a Chanolig Cymru i ehangu drwy gynnig benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti;
- £1.7m ar gyfer prosiect STEM Cymru 2 i hyrwyddo gyrfaoedd mewn diwydiannau STEM ymhlith pobl ifanc Cymru;
- £27.7m ar gyfer y cynllun Cyrchfannau Denu, dan arweiniad Croeso Cymru, i greu 11 o leoliadau mae’n rhaid ymweld â nhw ledled Cymru, gan gynnwys Canolfan Forol Porthcawl a menter Adnewyddu Glannau a Chanol Tref Caernarfon.
Ychwanegodd yr Athro Drakeford:
“Dw i’n hyderus y byddwn ni’r un mor llwyddiannus wrth fuddsoddi arian yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi’i ddyrannu i Gymru ar gyfer 2014-20 cyn i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
“Mae’n hanfodol bod Cymru’n cael yr un lefel o gyllid ag yr ydyn ni’n ei gael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd o goffrau’r Deyrnas Unedig ar ôl 2020 fel ein bod yn gallu parhau i fynd i’r afael â’r heriau hirdymor a chefnogi ein heconomi i dyfu.”