Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, fod Cymru wedi llwyddo i sicrhau €66m drwy raglen ymchwil ac arloesedd hynod gystadleuol yr Undeb Ewropeaidd
Y diwrnod ar ôl i Erthygl 50 gael ei thanio, roedd yr Ysgrifennydd Cyllid yn awyddus i weld Cymru'n parhau i gymryd rhan y rhaglen wedi i'r Deyrnas Unedig adael yr UE - fel y nodir ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru Diogelu Dyfodol Cymru.
Mae adroddiad blynyddol 2016 Llywodraeth Cymru ar Horizon 2020 yn tynnu sylw at berfformiad Cymru yn y rhaglen, gan gynnwys y canlynol:
- Gwnaeth nifer yr achosion o gydweithredu rhyngwladol ddyblu i fwy na 1,000;
- Roedd tua thraean o’r achosion lle'r oedd Cymru wedi cymryd rhan mewn prosiectau Horizon 2020 yn rhai lle’r oedd y sefydliadau yn gydgysylltwyr arweiniol;
- Llwyddodd busnesau Cymru i ddenu mwy na €10m drwy'r rhaglen;
- Cyfran uwch o achosion o gyfranogi yn y sector preifat o gymharu â’r DU;
- Prifysgolion Cymru yn perfformio'n dda, ac yn cyfrif am 63% o'r cyfranogiad gan Gymru.
Mae'r perfformiad cadarnhaol hwn yn parhau yn 2017. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod sefydliadau yng Nghymru wedi sicrhau gwerth €66m o gyllid Horizon 2020 a bod nifer y cyfranogwyr o Gymru yn fwy na 140.
Dyweodd yr Athro Drakeford: "Mae Horizon 2020 yn cynnig cyfle gwych i fusnesau a sefydliadau chwarae rhan flaenllaw ym maes ymchwil ac arloesedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cyfranogiad Cymru yn y rhaglen hon gan yr UE.
"Mae ein Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw o safbwynt economaidd fod y DU yn parhau i gael mynediad at raglenni ymchwil ac arloesedd Ewropeaidd, a'r rhaglenni a fydd yn eu dilyn, ar ôl 2020 i helpu i hybu gwyddoniaeth ac arloesedd o'r radd flaenaf, yn ogystal â swyddi a thwf cynaliadwy yng Nghymru."
Yn ystod y digwyddiad, cafodd yr Ysgrifennydd Cyllid gyfle i gwrdd â busnesau, gan gynnwys Ecodek Ltd o Wrecsam ac SPTS Technologies o Gasnewydd, gan ddygsu am y gwaith arloesol y maent yn ei gyflawni fel rhan o brosiectau Horizon 2020. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys ailgylchu deunyddiau adeiladu a gwastraff wedi'i hidlo o waith trin dŵr i ddatblygu cynhyrchion newydd, arloesol, a datblygu technolegau lled-ddargludyddion ar gyfer dyfeisiau meddygol arloesol, newydd.
Ychwanegodd yr Athro Drakeford:
"Mae heddiw'n ddathliad o lwyddiant Cymru yn rhaglen Horizon 2020 a'r cyfraniad y mae cyllid yr UE yn ei wneud i hybu ein heconomi wybodaeth. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y rhaglen hon ac yn denu rhagor o fuddsoddiadau a ddaw â manteision sylweddol i'n rhanbarth."
Mae drysau Horizon 2020 ar agor - bydd y cyllid ar gyfer ceisiadau llwyddiannus a wneir tra bo'r DU yn dal i fod yn rhan o'r UE yn cael ei warchod gan warant gyffredinol Llywodraeth y DU.
Mae cronfa SCoRE Cymru Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol i helpu sefydliadau yng Nghymru gyda chostau teithio ac i'w helpu i ffurfio partneriaethau a datblygu cynigion Horizon 2020. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.