Mae’r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £20m ychwanegol mewn gofal cymdeithasol yn 2017-18.
Mae’r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw’n ychwanegol at y £25m ar gyfer gofal cymdeithasol a ddarparwyd i awdurdodau lleol drwy gyfrwng y Grant Cynnal Refeniw a’r £10m i helpu i ymdopi â phwysau cost y gweithlu yn y Gyllideb derfynol ar gyfer 2017-18.
Mae’n dod â’r buddsoddiad ychwanegol mewn gofal cymdeithasol i 2017-18, sydd yn unol â’r buddsoddiad ychwanegol sydd wedi’i wneud mewn gofal cymdeithasol yn Lloegr.
Wrth gyhoeddi’r cyllid heddiw, dywedodd yr Athro Drakeford:
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos y pwysigrwydd rydyn ni’n ei roi i’n sector gofal cymdeithasol.
“Er gwaetha’r toriadau rydyn ni wedi rhoi sylw i’n cyllideb, rydyn ni wedi parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol ac wedi rhoi mesurau penodol ar waith i gefnogi cynaliadwyedd y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys buddsoddi £60m drwy gyfrwng y Gronfa Gofal Canolraddol i gefnogi integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae’r £20m ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw’n hwb pwysig ac yn gwneud cyfanswm ein buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cymdeithasol yn £55m yn 2017-18."
Ychwanegodd y Gweinidog ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans:
“Mae’r sector gofal cymdeithasol o bwysigrwydd strategol cenedlaethol i Lywodraeth Cymru.
“O’i gyfuno, mae’r cyllid hwn o £55m yn dangos unwaith eto bod Cymru’n arwain y ffordd o ran sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael cyllid ac adnoddau priodol.”