Mae cynllun newydd i gefnogi busnesau bach yng Nghymru ac Iwerddon wedi cael ei gymeradwyo ar ôl cael €2.3m o gyllid gan yr UE.
Bydd tua 120 o fusnesau o Gymru ac Iwerddon yn elwa o’r prosiect newydd, BUCANIER dros y tair blynedd nesaf. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar y prif sectorau sy’n tyfu yn economïau Cymru ac Iwerddon, gan gynnwys bwyd a diod, gwyddorau bywyd ac ynni adnewyddadwy.
Mae BUCANIER yn cael ei ariannu trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru yr UE, rhaglen sy’n gymorth i gryfhau’r cysylltiadau economaidd rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru:
“Mae’r cyllid hwn yn agor drysau i fusnesau bach. Mae’n sicrhau eu bod yn gallu elwa ar yr adnoddau a’r arbenigeddau gwahanol sydd ar gael yng Nghymru ac Iwerddon.
“Mae’n ddull o weithio arbennig o dda er mwyn annog sectorau sy’n rhannu’r un nodweddion yn y ddwy wlad. Dyma enghraifft arall o’r manteision o barhau i gael mynediad i raglenni Cydweithredu’r UE.”
Bydd busnesau bach yn elwa ar y gefnogaeth a’r arbenigedd a geir gan brifysgolion, awdurdodau lleol a sefydliadau arbenigol ar y naill ochr i Fôr Iwerddon a’r llall, er mwyn llunio, arbrofi a lansio syniadau busnes newydd.
Yn ogystal â hyn, bydd y prosiect hwn yn cynnig dosbarthiadau meistr mewn arloesi, cyfleoedd i fentora busnesau a chreu rhwydweithiau newydd rhwng Cymru ac Iwerddon sydd wedi eu hanelu at helpu busnesau yn yr un sector i rannu gwybodaeth, cynyddu masnach drawsffiniol a chreu swyddi newydd.
Cyngor Sir Penfro sy’n arwain ar y prosiect BUCANIER, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Prifysgol Abertawe, Cyngor Wexford, Sefydliad Technoleg Carlow, ac asiantaeth datblygu bwyd môr Iwerddon, sef Bord Iascaigh Mhara (y BIM).
Dywedodd y Cynghorydd Keith Lewis, dirprwy arweinydd ac aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro sy’n gyfrifol am yr economi a chymunedau:
“Fel y partner sy’n arwain, mae Cyngor Sir Penfro yn falch iawn bod arian yr UE wedi cael ei sicrhau ar gyfer prosiect BUCANIER trwy’r rhaglen Iwerddon-Cymru.
“Mae arloesi yn flaenoriaeth economaidd allweddol i’r ddwy wlad. Rydym yn edrych ymlaen at gael cydweithio â’n partneriaid yng Nghymru a’r Iwerddon.
“Mae datblygu arloesi mewn cyd-destun trawsffiniol yn gyfle cadarnhaol i ni allu datblygu twf busnesau a symud busnesau ymlaen yn y ddau ranbarth.”