Bydd dros €7m o arian yr UE yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau gwyddoniaeth a thechnoleg er mwyn helpu i warchod a datblygu bywyd morol a'r diwydiant pysgodfeydd yng Nghymru ac Iwerddon.
Bydd y cyllid yn cefnogi ymchwiliad gwyddonol i’r cyfleoedd a’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd ym Môr Iwerddon, yn ogystal â defnyddio technoleg i leihau costau ynni a helpu busnesau i ddatblygu cynnyrch a phrosesau newydd.
Mae'r ddau brosiect yn cael eu hariannu drwy raglen gydweithredu Iwerddon-Cymru yr UE. Mae'r rhaglen yn helpu i gryfhau cysylltiadau economaidd a chydweithio rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford:
"Mae'r prosiectau hyn yn cyfuno arbenigedd o'r ddwy wlad i gefnogi diwydiant yng Nghymru ac Iwerddon sy'n rhannu'r un cyfleoedd, yr un heriau a’r un adnodd ym Môr Iwerddon.
"Mae cynlluniau cydweithredol fel hyn yn dangos yn glir pa mor fanteisiol yw sicrhau bod Cymru'n parhau i gael mynediad at raglenni cydweithio tiriogaethol, gan gynnwys rhaglen Iwerddon-Cymru, pan fydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd."
Dywedodd Gweinidog Diwygio a Gwariant Cyhoeddus Iwerddon, Paschal Donohoe TD:
"Mae'n bleser gweld dau brosiect arall yn cael eu lansio o dan raglen Iwerddon-Cymru.
"Dyma arwydd amlwg o'n hymrwymiad i'r rhaglen. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd arian yr UE i ymchwil wyddonol mewn meysydd o fudd cyffredin i’r ddwy wlad."
Bydd tua €5.5m o arian yr UE yn cefnogi partneriaeth gwyddor môr Bluefish, a fydd yn ymchwilio i effaith y newid yn yr hinsawdd ar gynaliadwyedd pysgod a physgod cregyn.
Dan arweiniad Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â sefydliadau o Gymru ac Iwerddon, bydd y prosiect yn asesu sut mae'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar nifer y pysgod, patrymau mudo pysgod masnachol, a'r peryglon gan rywogaethau estron.
Bydd y prosiect yn datblygu ffyrdd o helpu busnesau'r sector i addasu i newidiadau amgylcheddol ym Môr Iwerddon a manteisio ar gyfleoedd masnachu newydd.
Dywedodd Dr Shelagh Malham, uwch-gymrawd ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor:
"Mae angen inni gael cadwyn cyflenwi bwyd sy'n gynaliadwy.
"Bydd y cyfuniad o waith ymchwil gan bartneriaid academaidd a chydweithio â phartneriaid yn y diwydiant yn sicrhau y bydd y diwydiannau hanfodol hyn yn cael yr wybodaeth a'r cymorth y maen nhw eu hangen er mwyn delio â'r newidiadau sy'n eu hwynebu ac a fydd yn parhau i'w hwynebu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd hefyd o gymorth iddyn nhw wrth ymateb i gyfleoedd."
Bydd €1.8m arall yn cael ei roi gan yr UE tuag at brosiect piSCES, a fydd yn datblygu ac yn profi rhwydwaith drydan grid clyfar newydd ac yn helpu i leihau costau ynni ar gyfer y diwydiant pysgodfeydd yng Nghymru ac Iwerddon.
Bydd grŵp meddalwedd a systemau telathrebu (TSSG) Sefydliad Technoleg Waterford yn cynnal ymchwil ac yn dylunio rhwydweithiau ynni newydd ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, tra bydd Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau ac asiantaeth datblygu bwyd môr Iwerddon, Bord Iascaigh Mhara (BIM) yn gweithio gyda busnesau yn y sector prosesu pysgod i ddarparu data byw a safleoedd profi.
Nod piSCES yw helpu busnesau pysgodfeydd mewn ardaloedd anghysbell i’w gwarchod rhag cynnydd sydyn mewn prisiau ynni, lleihau eu hôl troed carbon a gwella ansawdd a chadernid y cyflenwad ynni.
Dywedodd Sean Lyons, rheolwr prosiect yn TSSG:
"Mae TSSG yn falch iawn o ennill arian gan yr UE drwy raglen Iwerddon-Cymru ar gyfer prosiect piSCES. Bydd y prosiect yn golygu y byddwn ni’n datblygu technolegau grid clyfar ymhellach ac yn eu defnyddio ar gyfer gwaith sy'n defnyddio llawer o ynni yn y diwydiant prosesu pysgod.
"Bydd cydweithio ar draws y môr gyda'n partneriaid yn dod â chyfoeth o brofiad ym maes ymchwil, datblygu a gweithredu ynghyd. Bydd hefyd yn gyfle i gyflwyno’r dechnoleg i wahanol amgylcheddau rheoleiddiol fydd yn fanteisiol iawn i’r diwydiant.”