Bydd dros €4m o arian yr UE yn helpu i ddiogelu safleoedd treftadaeth ac arfordirol sy’n denu twristiaid yng Nghymru ac Iwerddon rhag peryglon sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd.
Bydd yr arian yn hwb i dwf economaidd yn niwydiant morol y ddwy wlad.
Wedi'i ariannu gan raglen Iwerddon Cymru'r Undeb Ewropeaidd, bydd prosiect CHERISH yn galluogi i sefydliadau arbenigol yng Nghymru ac Iwerddon ddefnyddio'r technolegau diweddaraf i ddadansoddi archaeoleg yr arfordir, yr ynysoedd a’r safleoedd treftadaeth morol sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan y newid yn yr hinsawdd, erydu arfordirol a'r cynnydd yn lefel y môr.
Bydd yn ariannu prosiectau cloddio newydd, astudiaethau amgylcheddol, gwaith mapio morol a modelu'r dirwedd. Bydd hefyd o gymorth wrth lunio strategaethau'r dyfodol ar y newid yn yr hinsawdd wrth i’r rhanddeiliaid ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r newidiadau hirdymor i amgylchedd arfordirol a threftadaeth Cymru ac Iwerddon, ardaloedd sy'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae’n bosib y bydd yr ymchwil hon yn arwain at ddiogelu safleoedd arfordirol a threftadaeth rhag peryglon y newid yn yr hinsawdd ac yn lleihau'r effaith andwyol ar yr economi leol.
Bydd y prosiect hefyd yn darparu gwybodaeth a fydd yn helpu i ddatblygu cyfleoedd twristiaeth drwy gynnal hyfforddiant a digwyddiadau cyhoeddus.
Safleoedd twristiaeth a threftadaeth fydd dan sylw yn bennaf, ardaloedd fel ynysoedd Sir Benfro a Phenrhyn Llŷn yng Nghymru a'r ynysoedd i'r de ac i ddwyrain arfordir Iwerddon.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford:
"Mae'r prosiect hwn yn gyfle i Gymru ac Iwerddon ddod at ei gilydd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau ry’n ni’n eu hwynebu o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd yn ein hardaloedd arfordirol.
"Mae'n hynod o bwysig bod safleoedd treftadaeth ac adnoddau sydd mewn perygl o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn cael eu diogelu, ac mae'n bleser gweld y bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn cefnogi cyfleoedd newydd i sector twristiaeth y ddwy wlad."
Dywedodd Gweinidog Diwygio a Gwariant Cyhoeddus Iwerddon, Paschal Donohoe, TD:
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gallwn ni ddefnyddio technolegau newydd i fynd i’r afael â’r materion diweddaraf fel y newid yn yr hinsawdd ac effaith hynny ar amgylchedd forol a threftadaeth ein dwy wlad. Mae hefyd yn ategu pwysigrwydd cydweithio trawsffiniol a’r cymorth sy’n cael ei roi gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer hynny.”
Bydd y prosiect pum mlynedd o hyd yn cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, Discovery Programme: Centre for Archaeology and Innovation Ireland ac Arolwg Daearegol Iwerddon.
Ynghyd â'r €4.1m o gyllid gan yr UE, bydd CHERISH hefyd yn cael ei ariannu gan €1.1m o goffrau'r sefydliadau sy'n cymryd rhan.
Dywedodd Christopher Catling, ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru:
"Dyma brosiect newydd cyffrous. Mae CHERISH yn uno archeolegwyr, geowyddonwyr ac arbenigwyr y môr i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol sy'n peryglu'r amgylchedd hanesyddol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.
"Bydd y prosiect hefyd yn ein galluogi ni am y tro cyntaf i gynnal gwaith maes ar rai o dirweddau archeolegol cyfoethocaf Cymru ac Iwerddon. Ry'n ni'n credu y bydd hyn yn arwain at lawer o gyfleoedd newydd a chyffrous ym maes twristiaeth treftadaeth ac arfordirol y ddwy wlad."