Mae Mark Drakeford wedi croesawu hwb o bron £1m o arian yr UE i gwmni ym Mhort Talbot sy’n buddsoddi mewn cynlluniau mawr ym maes rheilffyrdd, olew a nwy.
Mae’r cynlluniau’n cael eu hariannu drwy Horizon 2020, sef rhaglen ymchwil ac arloesi fwyaf yr EU. Ei nod yw torri tir newydd ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg, a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau o’r radd flaenaf.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Rwy’n falch iawn bod cwmni arall yng Nghymru wedi llwyddo yn y rhaglen Horizon 2020, sef rhaglen gystadleuol iawn sy’n buddsoddi mewn prosiectau sydd ar flaen y gad ym maes arloesi.
“Dyma enghraifft arall o sut y mae busnesau Cymru yn elwa ar gyllid yr UE a chyfleoedd i gydweithredu. Mae’n newyddion gwych y bydd y cynlluniau hyn yn galluogi i waith ymchwil a datblygu â’r fath botensial gael ei gynnal ym maes diogelwch trafnidiaeth a pheirianneg ynni, sydd o bwysigrwydd sylweddol i Gymru.”
Bydd TWI yn cydweithredu â sefydliadau blaenllaw ledled Ewrop ar ddau gynllun Horizon 2020 yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Bydd y cwmni’n cydweithio â Phrifysgol Birmingham a phartneriaid yng Ngwlad Belg, Portiwgal a Sbaen i ddatblygu system werthuso robotig a fydd yn golygu y gall cledrau rheilffyrdd gael eu hadolygu’n fwy aml ac y bydd system well ar gyfer canfod gwallau a diffygion.
Bydd y cwmni hefyd yn datblygu cynnyrch unigryw i asesu cyflwr yr esgynwyr a ddefnyddir yn aml wrth gynhyrchu olew a nwy ar y môr.
Bydd y cynnyrch hwn, a gaiff ei ddatblygu ar y cyd â phartneriaid yn y DU, Cyprus a Gwlad Groeg, yn fwy dibynadwy a bydd yn lleihau effaith cynhyrchu ar y môr ar yr amgylchedd drwy ganfodydd tanfor radiograffig digidol newydd.
Nod y ddau gynllun yw datblygu cynhyrchion arloesol a fydd yn cael eu marchnata a’u gwerthu o amgylch y byd.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £7.5 miliwn o gyllid yr UE yn Athrofa Ymchwil ar gyfer Deunyddiau Peirianneg Uwch (AEMRI) newydd TWI ym Mhort Talbot.
Dywedodd Philip Wallace, rheolwr rhanbarthol TWI yng Nghymru:
“Nod AEMRI yw annog sefydliadau gweithgynhyrchu a pheirianneg i dyfu eu busnesau a dod yn fwy cystadleuol drwy wneud gwaith ymchwil i ddeunyddiau a pheirianneg uwch.
Mae ein cydweithredu ar gyfer cynlluniau Horizon 2020 yn un enghraifft yn unig o’r nod hwn. Bydd gwybodaeth ymarferol arbennig TWI yn hyrwyddo gwaith arloesol yn y cynlluniau hyn a sicrhau bod cynhyrchion newydd yn barod i’r farchnad a’u bod yn llwyddo.”
Hyd yma, mae busnesau a phrifysgolion yng Nghymru wedi ennill mwy na €54m o gyllid Horizon 2020 gan y Comisiwn Ewropeaidd ers lansio’r rhaglen ddwy flynedd yn ôl.
Mae cymorth ariannol ar gyfer costau ysgrifennu ceisiadau a chostau teithio ar gael i sefydliadau yng Nghymru sydd â diddordeb mewn datblygu prosiectau Horizon 2020 drwy Gronfa SCoE Cymru Llywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth am SCoRE Cymru, anfonwch e-bost i horizon2020@wales.gsi.gov.uk.<?XML:NAMESPACE PREFIX = "O" />