Pe bai dros 25 y cant o nenfwd islaw atig oer neu do gwastad yn cael ei dynnu i ffwrdd a phe bai nenfwd newydd yn cael ei osod yn ei le, byddai rheoliadau adeiladu fel rheol yn berthnasol a byddai'n rhaid gwella deunydd inswleiddio thermol y nenfwd hwnnw.
Fodd bynnag, bydd yn angenrheidiol asesu'r perygl o anwedd yn yr atig a gwneud darpariaeth briodol yn unol â gofynion Rhan C (atal lleithder), sy'n ymwneud â rheoli anwedd.
Ceir gofynion gwahanol ar gyfer nenfydau sydd islaw toeau ar oleddf a nenfydau sydd islaw toeau gwastad. Yn achos to ar oleddf sydd ar annedd, byddai fel rheol yn golygu darparu deunydd inswleiddio newydd neu ychwanegol yn yr atig fel bod o leiaf 250mm o ffeibr mwynol neu ffeibr seliwlos, neu ddeunydd llenwi rhydd neu ddeunydd cyfatebol, yn gwilt a osodir rhwng ac ar draws distiau'r nenfwd. Fodd bynnag, gallai hynny fod yn amhriodol os yw'r atig eisoes wedi'i bordio ac nad yw'n fwriad tynnu'r bordiau i ffwrdd yn rhan o'r gwaith.
Yn achos to gwastad sydd ar annedd, dylid gosod y deunydd inswleiddio rhwng a thros y distiau fel sy'n ofynnol i gyrraedd y targed o ran gwerth 'U', a nodir yn y Ddogfen Gymeradwy. Pe bai hynny'n effeithio'n andwyol ar uchder y nenfwd, gallai targed is o ran perfformiad fod yn briodol.
I gael cyfarwyddyd technegol, dylech gyfeirio at y dogfennau cymeradwy yn yr adran ar gyfer Defnyddwyr Proffesiynol: