Mae mwy na £1bn o gronfeydd strwythurol yr UE wedi cael eu buddsoddi mewn cynlluniau ar draws Cymru.
Cafodd chwe deg y cant o'r cylch diweddaraf o gronfeydd yr UE ei neilltuo erbyn diwedd mis Tachwedd - gan fodloni targed Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid hefyd wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod yn uniongyrchol â Llywodraeth y DU ynglŷn â chyllid rhanbarthol yn y dyfodol fel na fydd Cymru ar ei cholled pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Gan siarad cyn y cyfarfod sy'n cael ei gynnal heddiw o Bwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru i drafod cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd, dywedodd yr Athro Drakeford:
“Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos sut rydym yn parhau i fuddsoddi cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd i gynnig sefydlogrwydd i fusnesau a phobl ar draws Cymru, a helpu economïau lleol a'r farchnad lafur.
“Rydyn ni nawr wedi buddsoddi £1.16bn o Gronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014 -20 a gafodd eu dyrannu i Gymru. Mae'r cyllid hwnnw wedi'i ddefnyddio i gefnogi cynlluniau yn cynnwys prentisiaethau; Cronfa Fusnes Cymru; Canolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd (CUBRIC); Parc Gwyddoniaeth Menai a thechnoleg ynni'r môr Deep Green.
“Mae'r llwyddiant hwn yn dilyn ein cais llwyddiannus i Lywodraeth y DU am warant estynedig ar gyfer pob buddsoddiad mewn prosiectau a gafodd eu cymeradwyo cyn i'r DU adael yr UE.
“Pleidleisiodd Cymru o blaid gadael yr UE ond ni wnaeth y genedl bleidleisio o blaid toriadau gan Lywodraeth y DU i fuddsoddiad yng Nghymru.
“Ni ddylai Cymru golli ceiniog o gyllid o ganlyniad i Brexit. Rydyn ni'n cynnal trafodaethau uniongyrchol â Llywodraeth y DU i sicrhau bod polisïau a chyllid sydd wedi'u datganoli - fel cyllid rhanbarthol yn y dyfodol - yn dod yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru oddi wrth yr UE. Rhaid inni beidio â chymryd camau yn ôl o safbwynt datganoli."
Dywedodd Julie Morgan, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru 2014-20:
“Mae'n hanfodol gweithio'n gyflym i fuddsoddi'r cyllid hwn mewn cynlluniau sy'n bodloni amcanion ein rhaglenni. Rhaid inni hefyd wneud y mwyaf o bob cyfle i fusnesau, cymunedau a dinasyddion elwa ar gyllid yr UE cyn i'r DU adael yr UE.
“Fel Cadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni, byddaf i'n gwneud popeth y gallaf i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ac ar gael y gwerth gorau am arian o'r holl raglenni a ariennir gan yr UE.
“Rwy'n hapus hefyd fod y Pwyllgor Monitro Rhaglenni yn mynd i gael y cyfle i drafod dyfodol cyllid rhanbarthol yng Nghymru. Rydyn ni'n parhau'n rhan weithredol o'r UE tan i'r DU adael ac rwy'n gobeithio y gall y negodiadau hyn ddylanwadu ar y drafodaeth sydd ar y gweill ar draws yr UE ynglŷn â dyfodol polisi rhanbarthol yr UE. Gobeithio hefyd y gallant ein helpu i baratoi Cymru ar gyfer ein dyfodol y tu allan i'r UE."