Bydd Bil newydd disgwylir iddo gael ei gyflwyno heddiw yn creu’r dreth Gymreig newydd gyntaf ers bron 800 mlynedd. Bydd y dreth trafodiadau tir yn disodli treth dir y dreth stamp.
Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yw’r Bil cyntaf i’w gyflwyno dan Raglen Ddeddfwriaethol newydd Llywodraeth Cymru.
Fel treth dir y dreth stamp, bydd y dreth trafodiadau tir yn daladwy pan fydd rhywun yn prynu neu’n lesio adeilad neu dir yng Nghymru sydd dros bris penodol. Bydd yn effeithio ar brynwyr tai ac ar fusnesau, gan gynnwys adeiladwyr, datblygwyr eiddo ac asiantau sy’n ymwneud â’r broses (fel cyfreithwyr a thrawsgludwyr).
Yn 2014-15, codwyd £170m trwy dreth dir y dreth stamp yng Nghymru, a chafwyd 55,000 o drafodiadau. Disgwylir i hyn godi i £244m erbyn 2018-19. Os caiff y Bil ei basio, bydd y dreth trafodiadau tir yn disodli treth dir y dreth stamp yng Nghymru fis Ebrill 2018.
Mae’r Bil yn nodi egwyddorion allweddol y dreth newydd, gan gynnwys y mathau o drafodiadau, y weithdrefn ar gyfer pennu cyfraddau a bandiau, sut y bydd y dreth yn cael ei chyfrifo, a pha ryddhadau fydd yn gymwys. Mae hefyd yn cyflwyno camau i fynd i’r afael ag osgoi trethi.
Mae’r dreth trafodiadau tir yn cyfateb yn fras i dreth dir y dreth stamp, felly bydd hynny’n rhoi cysondeb a sefydlogrwydd i fusnesau a phrynwyr tai yng Nghymru. Ond mae hefyd yn cyflwyno rhai newidiadau sydd wedi’u cynllunio i wella effeithlonrwydd ac i adlewyrchu amgylchiadau a blaenoriaethau unigryw Cymru.
Dyma’r prif newidiadau:
- Rheol gyffredinol newydd yn erbyn osgoi trethi (GAAR) i helpu i atal osgoi trethi ac i ddelio â’r mater yn gadarn;
- Rheol wedi'i thargedu yn erbyn osgoi trethi (TAAR), a fydd yn gymwys i bob math o ryddhad;
- Eithrio dau ryddhad mewn perthynas â datgydfuddiannu cwmnïau yswiriant a chymdeithasau adeiladu;
- Diwygio rhai rhyddhadau eraill er mwyn iddynt weithio’n well neu mewn ffordd sy’n fwy perthnasol i Gymru;
- Bydd elfen rent lesoedd preswyl newydd yn esempt rhag treth o dan y dreth trafodiadau tir.
- Symleiddio’r rheolau’n ymwneud â lesoedd
Bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud am gyfraddau a bandiau’r dreth trafodiadau tir yn agosach at fis Ebrill 2018, gan ystyried yr amodau economaidd a’r blaenoriaethau bryd hynny.
Ddydd Iau fe gyhoeddir papur ymchwil ar gyfraddau a bandiau. Bydd hwn yn manylu ar gyd-destun y cyfraddau a’r bandiau a ddefnyddir yn nhreth dir y dreth stamp yng Nghymru a Lloegr a’r dreth trafodiadau tir ac adeiladau yn yr Alban.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
“Mae hon yn garreg filltir hanesyddol yn y broses o ddatganoli pwerau trethi i Gymru. Mae’r Bil hwn yn gam arall ymlaen yn y gwaith o greu trethi sy’n fwy addas i anghenion Cymru ac sy’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
“Mae hon yn dreth sy’n effeithio ar lawer ohonom. Bydd cyflwyno treth trafodiadau tir newydd sydd wedi’i gwneud yng Nghymru, yn lle treth dir y dreth stamp, yn golygu bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i elwa ar y refeniw a godir drwy’r dreth bwysig hon.
“Rydyn ni wedi ymgynghori’n eang ynglŷn â sut y dylai’r dreth hon weithio yng Nghymru ac wedi gwrando ar amrywiaeth o safbwyntiau. Dyna pam y bydd y dreth yn cyfateb yn fras i dreth dir y dreth stamp - bydd hynny’n sicrhau’r cysondeb a’r sefydlogrwydd sydd mor bwysig i’r byd busnes, ac yn golygu bod y broses bontio yn esmwyth i brynwyr tai ac i’r farchnad eiddo. Rydyn ni hefyd wedi gallu dysgu oddi wrth y broses o ddatganoli’r dreth i’r Alban.
“Ond rydyn ni hefyd wedi gallu manteisio ar y cyfle sy’n codi wrth ddatganoli trethi i wneud rhai newidiadau i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ac i ganolbwyntio ar amgylchiadau a blaenoriaethau Cymru. Mae’r Bil yn cyd-fynd â’n hegwyddorion clir ar gyfer trethi Cymru, sef creu system decach a symlach sy’n hybu twf a swyddi.”
Disgwylir i’r Bil gael ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol am y Bil yn y Cyfarfod Llawn yfory.