Caiff menter £14.7m a gefnogir gan yr UE i fanteisio i'r eithaf ar arbenigedd ymchwil o’r radd flaenaf ym mhrifysgolion Cymru i helpu i roi hwb i’r diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru.
O dan gynllun ASTUTE 2020, sy’n cael cymorth gwerth £10m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a £4.7m o brifysgolion sy'n cymryd rhan, bydd tîm o academyddion o’r radd flaenaf ac arbenigwyr technegol cymwysedig iawn yn cydweithio â byd diwydiant i fynd i'r afael â heriau gweithgynhyrchu i ddatblygu nwyddau cynaliadwy, gwerth uwch a gwasanaethau ar gyfer y farchnad fyd-eang.
Caiff y cynlluniau cydweithredu eu dylunio i ddiwallu anghenion diwydiant gydag arbenigwyr yn helpu busnesau i ddatblygu ymchwil arloesol a defnyddio technolegau peirianneg uwch i ysgogi cynhyrchiant a thwf.
O dan arweiniad Prifysgol Abertawe ochr yn ochr â Chaerdydd, Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, bydd y prosiect yn cefnogi amrywiaeth eang o gwmnïau ledled y Gogledd, y Gorllewin a Chymoedd y De- o'r sector modurol ac awyrofod i beirianneg feddygol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid :
"Rwyf wrth fy modd bod cronfeydd yr UE yn helpu busnesau Cymru i wella eu cynhyrchiant drwy fanteisio ar yr arbenigedd o fewn ein sefydliadau academaidd a mabwysiadu technolegau arloesol i gyflawni llwyddiant masnachol a thwf economaidd.
"Dyma enghraifft arall o bwysigrwydd cronfeydd yr UE ar gyfer ein heconomi a’n blaenoriaeth yw cael y fargen orau i’r DU pan fydd yn ymadael â’r UE. Mae hyn yn cynnwys diogelu’r holl arian y mae gan Gymru fynediad iddo.
"Rhaid inni sicrhau hefyd fod Cymru’n parhau i elwa o fuddsoddiad mewn datblygu economaidd rhanbarthol y tu hwnt i’n haelodaeth o’r UE, fel bod busnesau a chymunedau yn cael y cymorth y mae ei angen."
Disgwylir i waith cydweithredu drwy ASTUTE 2020 weld busnesau’n gwella eu dulliau gweithgynhyrchu a pherfformiad amrywiaeth o nwyddau megis pympiau gwaed meddygol, tyrbinau gwynt a chydrannau awyrofod.
Dywedodd Athro Johann Sienz, cyfarwyddwr y prosiect:
"Rydym yn hynod o falch o gael cronfeydd yr UE ar gyfer ASTUTE 2020 a fydd yn canolbwyntio ei adnoddau ar gydweithio â diwydiant i ddarparu cymorth mewn meysydd sy'n cynnig y cyfleoedd economaidd gorau ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu i wella ffyniant economaidd."