Mae cynllun sy’n cael ei gefnogi gan £4.4 miliwn o arian gan yr Undeb Ewropeaidd yn helpu i roi hwb i sgiliau rheoli yng Ngogledd Cymru wedi cael ei gyhoeddi gan Mark Drakeford.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd Academi Fusnes Gogledd Cymru yn helpu busnesau i dyfu ac i fod yn fwy cystadleuol yn y rhanbarth trwy ddarparu cymwysterau rheoli sydd wedi’u cymeradwyo gan Brifysgolion i dros 1,000 o gyflogai.
Hefyd, bydd Academi Talent Ifanc yn cael ei sefydlu er mwyn datblygu a chadw’r genhedlaeth nesaf o reolwyr yng Ngogledd Cymru.
Gyda £2.8 miliwn o help ariannol gan yr UE, bydd y cynllun yn galluogi cyflogwyr i helpu eu staff i gael cyfleoedd hyfforddi a datblygu gyda hyd at 70% o gymhorthdal. Disgwylir i tua 275 o fusnesau ledled Gogledd Cymru gymryd rhan yn y cynllun hwn.
Dywedodd Mark Drakeford:
“Rwy’n falch iawn fy mod yn gallu cyhoeddi y byddwn yn defnyddio £2.8 miliwn o arian yr UE ar gyfer Academi Fusnes Gogledd Cymru. Bydd hyn yn helpu staff busnes i ddatblygu eu gyrfaoedd ac, mewn amser, i wneud busnesau mewn sectorau twf pwysig yr ardal hyd yn oed yn fwy cystadleuol.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos mor bwysig yw arian yr UE i Gymru. Byddwn yn parhau i ddarparu rhaglenni sy’n cael cefnogaeth gan yr UE ac ar yr un pryd, diogelu buddiannau Cymru wrth i drafodaethau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd barhau.”
Nod Academi Fusnes Gogledd Cymru yw helpu cwmnïau mewn sectorau pwysig sy’n awyddus i ehangu, sectorau fel gweithgynhyrchu uwch, twristiaeth a gweithgareddau awyr agored, y diwydiant bwyd a diod a’r sector ynni.
Mae cyfleoedd i staff ennill cymwysterau rheoli am gost gostyngedig ar gael mewn meysydd fel rheoli ariannol, gwerthu a marchnata, strategaeth fusnes, llywodraethu a sgiliau gweithredu a rheoli.
Bydd y cynllun yn cael ei arwain gan Grŵp Llandrillo Menai mewn partneriaeth â Choleg Cambria a phrifysgolion Bangor a Glyndŵr. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn swyddfeydd y cyflogwyr fydd yn cymryd rhan.
Dywedodd Dr Ian Rees, cyfarwyddwr gweithredol materion allanol Grŵp Llandrillo Menai:
“Mae Academi Fusnes Gogledd Cymru yn fenter gyffrous fydd yn gwella perfformiad cwmnïau yn y rhanbarth ac yn helpu i ddatblygu’r economi yng Ngogledd Cymru.
“Rydym yn hapus iawn ein bod yn arwain y fenter hon ynghyd â’n partneriaid yn y sector addysg uwch; rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag amrywiaeth o fusnesau yn y blynyddoedd i ddod.”
Ychwanegodd Mark Drakeford:
“Mae cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi buddsoddiad hanfodol i economi a marchnad lafur Cymru, gan greu a diogelu miloedd o swyddi, cefnogi busnesau ac uwchsgilio ein gweithluoedd.
“Mae’n hanfodol sicrhau nad yw Cymru’n colli ceiniog o’r cyllid hwn pan ddaw hi’n amser i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.”
Dywedodd Iwan Thomas, Cydgysylltiad Rhanbarthol Sgiliau a Chyflogaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:
“Trwy ei ffrwd waith sgiliau, mae Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, fel y Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer y rhanbarth, yn llwyr gefnogi Academi Fusnes Gogledd Cymru fel un o’i bum prosiect sgiliau rhanbarthol pwysig. Bydd y prosiect hwn yn cyfrannu’n glir at ein nod sef gwella a diweddaru sylfaen sgiliau’r rhanbarth a chreu mwy o swyddi, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyflenwi sgiliau uwch mewn clystyrau economaidd gwerth uchel.
“Mae’r ffaith bod ein darparwyr yn cydweithio â’i gilydd mor dda yn dangos ymhellach mor bwysig yw hi i weithio fel rhan o ‘Dim Gogledd Cymru’. Dyma yw ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer rhanbarth hyderus a chydweithredol sydd â thwf economaidd cynaliadwy. Rydym yn awyddus i fanteisio ar lwyddiannau sectorau economaidd gwerth uchel a’r cysylltiad sydd ganddynt ag economïau pwerdai Gogledd Lloegr ac Iwerddon fel y gallwn symud at wneud y sefyllfa’n realiti.”