Lansiwyd seremoni wobrwyo newydd, ‘Gwobrau GO Cymru’ gan Mark Drakeford, er mwyn dathlu rhagoriaeth yn y maes caffael cyhoeddus.
Wrth lansio’r gwobrau, mae’r Ysgrifennydd Cyllid yn annog pobl o bob cwr o Gymru i enwebu unigolyn neu sefydliad sydd wedi cyflawni cryn dipyn ym maes caffael yng Nghymru. Mae’r broses enwebu ar agor nes 8 Awst.
Bydd seremoni ‘Gwobrau GO Cymru’, wedi’i threfnu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei chynnal am y tro cyntaf ar 6 Hydref 2016 yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd.
Dywedodd Mark Drakeford:
“Mae Cymru’n arwain y Deyrnas Unedig o ran arfer da ym maes caffael cyhoeddus. Mae llawer o reswm gyda ni dros ymfalchïo, ac mae’r gwobrau GO newydd yn gyfle perffaith i arddangos yr holl waith da sy’n digwydd ar draws Cymru.
“Os ydych chi’n gwybod am unigolyn neu sefydliad sydd wedi cyflawni gwaith da o fewn y maes caffael sector cyhoeddus yng Nghymru, ewch ati i enwebu. Drwy rannu arfer da gallwn adeiladu ar y llwyddiant hyd yma a sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus drwy gaffael.”