Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cyhoeddi ymgynghoriad ar gynigion i roi pwerau gorfodi troseddol i Awdurdod Cyllid Cymru i’w alluogi i fynd i’r afael â throseddau trethi.
O fis Ebrill 2018 ymlaen, Awdurdod Cyllid Cymru fydd yn gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth gwarediadau tirlenwi a’r dreth trafodiadau tir – sef y ddwy dreth sy’n cael eu datganoli i Gymru. Byddant yn disodli’r dreth dirlenwi a’r dreth stamp sy’n cael eu casglu gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar hyn o bryd.
Mae gan y corff hwnnw gyfres eang o bwerau gorfodi troseddol sy’n ei helpu i daclo ac atal troseddau o ran y dreth stamp a’r dreth dirlenwi.
Mae’r ymgynghoriad sy’n cael ei lansio heddiw yn ceisio barn ar fanteision ac anfanteision rhoi cyfres debyg o bwerau gorfodi troseddol i Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, ond gyda rhai gwahaniaethau yng nghwmpas y pwerau.
Er enghraifft, nid yw pwerau arestio a chadw pobl wedi’u cynnwys yn rhan o’r cynigion, gan nad ystyrir eu bod yn angenrheidiol nac yn gymesur. Ond mae pwerau i gael mynediad i safleoedd a chymryd gwybodaeth wedi’u cynnwys.
Mae’r ddogfen ymgynghori hefyd yn amlinellu’r mesurau diogelu y bwriedir eu cyflwyno ar gyfer dinasyddion.
Wrth lansio’r ymgynghoriad, dywedodd yr Athro Drakeford:
“Mewn naw mis, bydd Llywodraeth Cymru yn codi ein trethi cyntaf ers bron 800 mlynedd.
“Mae trefn effeithiol o gasglu trethi yn hanfodol i ariannu’r gwasanaethau cyhoeddus rydym i gyd yn dibynnu arnynt. Er mwyn diogelu’r gwasanaethau hynny, mae’n bwysig ein bod yn cael system drethi deg sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl dalu’r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir. Ond, ar yr un pryd, mae’n bwysig ein bod yn taclo ac yn rhwystro’r rhai sy’n ceisio osgoi talu trethi.
“Dyna pam fy mod yn lansio’r ymgynghoriad hwn heddiw ynglŷn â chynigion i sicrhau bod Awdurdod Cyllid Cymru yn cael y pwerau ymchwilio cywir a chymesur i daclo a rhwystro troseddau ym maes trethi datganoledig.
“Ni ddylai unrhyw lywodraeth ddeddfu i roi pwerau troseddol i awdurdod cyhoeddus oni bai fod hynny’n angenrheidiol. Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn defnyddio pwerau troseddol yng Nghymru ar hyn o bryd i daclo ac atal troseddau trethi mewn perthynas â’r ddwy dreth sy’n cael eu datganoli ym mis Ebrill, ac mae ganddo set o fesurau diogelu sydd wedi’u diffinio’n glir er mwyn gwneud yn siŵr bod y pwerau hynny’n cael eu defnyddio mewn modd cymesur a phriodol. Rwyf o’r farn na ddylai Awdurdod Cyllid Cymru fod yn wahanol yn y cyswllt hwn.
“Mae datganoli trethi yn dod â chyfrifoldebau newydd yn ei sgil – ac un ohonynt yw gwarchod buddiannau dinasyddion sy’n parchu’r gyfraith trwy fynd i’r afael â’r rheini sy’n ceisio osgoi eu cyfrifoldebau.
“Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac i roi gwybod inni beth yw eu barn ar y mater pwysig hwn.”