Heddiw, bu Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan yn ymweld â Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin.
Lansiwyd y cynllun yn 2005, â'r bwriad o gynyddu nifer yr athrawon a chynorthwywyr addysg dwyieithog yng Nghymru. Y llynedd, cyhoeddwyd swm o £3.13 miliwn i gefnogi ehangu'r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg, yn unol â chynllun y Gymraeg mewn Addysg a lansiwyd yn ddiweddar ac sy'n amlinellu'r rhan y bydd addysg yn ei chwarae yn y dasg o gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.
Gwyliodd y Gweinidog ran o sesiwn addysgu a chafodd gyfle i gyfarfod ag athrawon sy'n cymryd rhan yn y cwrs blwyddyn, Anelir y cwrs at athrawon mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg i'w helpu nhw i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg yn sylweddol.
Mae cyrsiau eraill sydd ar gael yn cynnwys cyrsiau trochi 25 diwrnod a 5 wythnos ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ac amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser i ymarferwyr sy'n gweithio mewn ysgolion Cymraeg, neu sy'n addysgu'r Gymraeg fel pwnc mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae'r sector Addysg yn allweddol os ydym am gyrraedd miliwn o siaradwyr, o ran cynyddu'r nifer o ysgolion Cymraeg ac o ran gwella a chynyddu addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae'r cynllun sabothol yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn o beth drwy wella gallu athrawon sydd eisoes yn y system i helpu i fodloni'r cynnydd yn y galw.
“Roedd yn hynod ddiddorol gwylio rhan o'r sesiwn a sgwrsio yn Gymraeg gyda'r rhai gymerodd ran i ddysgu am eu profiadau ar y cwrs a'u cynlluniau i roi strategaethau ar waith i godi safon y Gymraeg ar ôl dychwelyd i'w hysgolion. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad i'r iaith a dw i'n gobeithio y bydd y cwrs hwn yn rhoi'r hyder iddyn nhw wneud gwahaniaeth pan fyddant yn ôl yn yr ystafell ddosbarth.”
Dywedodd Dr Lowri Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol:
“Roedd hi’n bleser i groesawu’r Gweinidog i’r Brifysgol er mwyn gweld y cwrs yn cael ei addysgu. Mae’n fuddsoddiad sy’n dangos bod y Llywodraeth o ddifrif ynghylch cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 ac yn cyfrannu’n uniongyrchol hefyd at weithredu’r cwriwcwlwm newydd. Roedd yn gyfle ac yn fraint hefyd i’r athrawon ddangos y cynnydd y maen nhw wedi’i wneud hyd yma i’r Gweinidog.”